The PDR logo
Chw 22. 2022

Blwyddyn o Ymchwil yn PDR

I’r timau ymchwil yn PDR, heb os nac oni bai, roedd 2021 yn flwyddyn fawr. Er gwaethaf y cyfyngiadau parhaus ar weithio mewn tîm a theithio, fe wnaethom fwrw ymlaen â phrosiectau ar raddfa fawr a'n cymorth prosiect arferol, gan helpu busnesau a llywodraethau ledled y byd i integreiddio arferion dylunio gwell.

Nawr fod pethau wedi tawelu, mae'n bwysig myfyrio ar bopeth a gafodd ei gyflawni - felly fe wnaethom gwrdd â Piotr Swiatek, Rheolwr Prosiect, a Jo Ward, Dylunydd, i ddadansoddi 12 mis arall o waith caled a heriau newydd cyffrous mewn ymchwil a chyfnewid gwybodaeth...

Fe ddechreuom 2021 trwy barhau â’n prosiect cyfnewid gwybodaeth hirdymor, Design4Innovation, sy’n dwyn 8 partner Ewropeaidd ynghyd. 2021 oedd parhad ein cyfnod 'monitro', â’r pwrpas o ymgysylltu â llunwyr polisi ac asesu effaith yr ymyriadau a gynlluniwyd gennym ar gyfer y broses honno.

"Fel arfer, mae prosiectau a ariennir yn dod i ben heb unrhyw amser wedi’i neilltuo i fesur effaith, ond roedd gan y prosiect hwn 2 flynedd yn benodol ar gyfer hynny, yn rhan ohono. Llwyddodd yr holl bartneriaid ddylanwadu ar bolisïau a chreu mecanweithiau cymorth busnes newydd a oedd werth dros 10 miliwn Ewro," eglura Piotr. "O ganlyniad, cawsom ein hamlygu gan ein cyllidwr, Interreg Europe, fel enghraifft o arfer gorau o blith y 260 prosiect a ariennir ganddynt."

Mae cyfran sylweddol o'n gwaith yn PDR yn golygu gweithio gyda llywodraethau lleol - felly ym mis Chwefror, fe wnaethom gyflwyno gweithdy i Lywodraeth Cymru, gan rannu'r hyn y mae rhanbarthau eraill yn eu gwneud a'r tueddiadau presennol o ran cymorth dylunio ac arloesi. "Yn ystod y mis hwn hefyd, fe wnaethom gychwyn ar brosiect newydd, yr Arsyllfa Effaith Dylunio, sy'n gydweithrediad â 3 phartner arall - canolfannau dylunio yn Nenmarc, Estonia a Groeg," â Piotr yn ei flaen. "Ein bwriad oedd nodi gwerth ac effaith dylunio, a sut i gasglu'r data hanfodol hwnnw - adolygu dulliau ar gyfer mesur effaith dylunio a gweld sut mae'r dull hwn yn gweithio mewn gwledydd gwahanol."

Cawsom ein hamlygu gan ein cyllidwr, Interreg Europe, fel enghraifft o arfer gorau o blith y 260 prosiect a ariennir ganddynt.

Piotr Swiatek | RHEOLWR PROSIECT | PDR

Draw ym mhrosiect Clwstwr, cyhoeddwyd yr ail garfan i gael cyllid sbarduno'r Lab Syniadau ym mis Chwefror, gan gychwyn misoedd o gymorth ac ymchwil a datblygu ar lefel sbarduno gyda'r prosiectau amrywiol. "Yn y grŵp hwn roedd Little Bird Films â'r prosiect Green Screen, Salt White Studio â’r prosiect Crit + Spec, Tantrwm â'r System Cyfweld o Bell - a hyd yn oed mwy o syniadau gwych!" Ebycha Jo. "Roedd yn gymysgedd da o brosiectau’n edrych ar gynhyrchion a gwasanaethau’n seiliedig ar dechnolegau, neu effaith gymdeithasol, neu ddefnyddio technolegau sgrin i wella profiadau."

Yn fuan, daeth Sesiwn Gyflwyno Labordy Syniadau Clwstwr: "Sesiwn ar ffurf dangos a dweud oedd hon, i’r garfan rannu'r hyn a ddysgwyd ganddynt trwy gydol y broses, a'r hyn y byddent yn ei ddefnyddio i ddatblygu yn y dyfodol. Cyfnodau byr, dwysedd uchel yw’r Labordai hyn lle mae prosiectau’n 'fyw' o'r cychwyn i bob pwrpas, felly mae'n gyfle gwych i redeg yn gyflym â syniadau newydd wrth iddynt ddatblygu."

Yn ystod y gwanwyn, cyflwynodd y timau ymchwil y cymorth peilot User-Factor yng Nghymru, gan brofi gwahanol ffyrdd o ddarparu cymorth dylunio i fusnesau bach. "Fe wnaethom gynnal archwiliad dylunio bach o anghenion pob cwmni ac awgrymu ffyrdd y byddai dylunio’n eu helpu i ddatblygu. Mae Frog Bikes yn enghraifft wych o hyn – roedden nhw’n ystyried newid eu model busnes yn fodel busnes cylchol," eglura Piotr. "Yn yr un modd, roedd Miss Patisserie – y ficrofusnes bomiau bath - yn archwilio arlwy newydd gyda blychau tanysgrifio."

Trodd Clwstwr rywfaint o'i sylw at y prosiect Deallusrwydd Artiffisial Newyddiaduraeth ym mis Mai, gan weithio gyda'r tîm Polis yn LSE, BBC News Labs ac ystafelloedd newyddion byd-eang i ganolbwyntio ar ffyrdd newydd o ganfod ac adrodd straeon newydd gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. "Fe wnaethom gefnogi a hwyluso'r sesiynau hynny â gweithdai – roedd hi’n wirioneddol wych cael grŵp mor amrywiol o bobl o amrywiaeth o ystafelloedd newyddion byd-eang o gwmpas y bwrdd i weithio ar ymchwil a datblygu adrodd straeon newydd.

Roedd mis Gorffennaf yn fis gwych oherwydd roedd rhaid inni fynd allan i brofi Reel Reality 'yn y gwyllt'! Mae'r cysyniad yn ymwneud â lleoliadau ffilm a theledu ledled Cymru, felly gallom brofi'r ap ym Mae Caerdydd a chwilio am y mannau lleoliad, gan gasglu eitemau i adeiladu ein setiau ffilm ein hunain a chynnwys bonws ychwanegol.

Jo Ward | DYLUNYDD | PDR

"Dros y mis neu ddau nesaf, fe wnaethom gefnogi’r digwyddiad Dewch Ynghyd ar gyfer Clwstwr, gan ddwyn cymaint â phosibl o'r tîm ynghyd â'r garfan newydd, y drydedd o'i math. Roedd rhai o'r rhain yn newydd sbon i PDR a Clwstwr," â Jo yn ei blaen, "ond yn yr un modd, roedd gennym ddigonedd a oedd wedi bod drwy'r broses yn barod ac a oedd bellach wedi sicrhau mwy o arian ar gyfer syniadau newydd sbon. Roeddem yn hapus iawn i weld hynny. Dwy enghraifft yn unig yma oedd Edge 21 a Theatr Hijinx."

"Roedd mis Gorffennaf yn fis gwych," meddai Jo, "oherwydd roedd rhaid inni fynd allan i brofi Reel Reality 'yn y gwyllt'! Mae'r cysyniad yn ymwneud â lleoliadau ffilm a theledu ledled Cymru, felly gallom brofi'r ap ym Mae Caerdydd a chwilio am y mannau lleoliad, gan gasglu eitemau i adeiladu ein setiau ffilm ein hunain a chynnwys bonws ychwanegol."

Penllanw cam monitro Design4Innovation oedd ein cynhadledd derfynol, ddechrau mis Hydref 2021, yng Ngwlad Pwyl. "Roedd yn gyffrous iawn - fy nigwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ers cyn mis Mawrth 2020!" eglura Piotr. "Roedd yn rhan o gyngres fwy, Fforwm y Dyfodol Ewrop, a oedd â 4,000 o fynychwyr - yn ystod y gyngres hon y cynhaliwyd ein sesiwn tair awr, gyda dros 100 o fynychwyr. Fe wnaethom rannu ein heffaith a'n cynnydd o'r prosiect, a gofyn pa gymorth dylunio ar gyfer busnesau bach fydd ei angen yn y blynyddoedd sydd i ddod - yn enwedig o ystyried Covid a’r mesurau adfer."

Fel ag erioed, fe wnaeth ein cefnogaeth i lywodraethau byd-eang barhau. "Tua'r adeg hon, cysylltodd Llywodraeth Latfia â ni i ddarparu 6 sesiwn i uwch weision sifil ynghylch meddwl dylunio a dylunio gwasanaethau yng nghyd-destun polisïau a gwasanaethau cyhoeddus."

Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd Gweithdai Her Amgueddfa Cymru, yn ymwneud ag ymchwilio ar y cyd i gyfleoedd posibl ar gyfer ffyrdd arloesol a chreadigol o ailfeddwl y profiad mewn amgueddfa. "Roedd gweld cymaint o bobl roedden ni'n eu hadnabod yn dychwelyd â rhywbeth cyffrous a syniadau newydd i'w rhoi i'r amgueddfa yn gyffrous iawn," esbonia Jo. "Fe wnaethom barhau â llawer o gymorth prosiect hyd at y Nadolig - roedd gennym tua 60 o brosiectau yn ystod 2021, felly mae angen digonedd o gyfathrebu ac arweiniad arnynt, sy'n llawer o hwyl ac yn werth chweil."

EDRYCH YMLAEN AT 2022

Yn anffodus, daw Clwstwr i ben yn ystod haf 2022, felly rydym wrthi’n brysur yn dod â'r holl brosiectau hynny i ben. "Wrth i Clwstwr ddiweddu, rydym yn cychwyn ar ein prosiect Arbenigedd Clwstwr sy'n cynnwys 4 astudiaeth wahanol; mae un, dan arweiniad y tîm polisi, yn myfyrio ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod Clwstwr, yr hyn rydym wedi'i ddysgu a'r hyn y gallwn ei ddatblygu ar gyfer diwydiannau creadigol yn y dyfodol - sy'n arwain y ffordd yn wych at ein prosiect mawr nesaf gyda media.cymru," meddai Jo.

"Rydym yn cwblhau prosiectau hefyd," ychwanega Piotr. "Mae User-Factor a'r Arsyllfa Effaith Dylunio yn dod i ben, ac rydym yn edrych ar fanteisio i’r eithaf ar yr hyn a ddysgwyd gennym yn ystod y prosiectau hynny ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol a datblygu gwaith masnachol o ganlyniad iddynt."

Y CAMAU NESAF

Dysgwch am hynt ein timau masnachol ac ymgynghori yn 2021, neu darllenwch yr holl newyddion diweddaraf.