The PDR logo

Design4Innovation

Y COMISIWN EWROPEAIDD

Cydnabod dylunio yn offeryn ar gyfer arloesi.

Ers mis Ionawr 2017, mae Tîm Polisi Dylunio PDR yn arwain prosiect Design4Innovation sy’n cael ei ariannu gan Interreg Europe.

Ynghyd â saith partner Ewropeaidd arall, sy’n cynnwys llywodraethau Ewropeaidd rhanbarthol, canolfannau dylunio ac asiantaethau arloesi, bydd y Tîm yn datblygu Cynlluniau Gweithredu Dylunio i wella cystadleurwydd mentrau bach a chanolig trwy ddefnydd mwy strategol ar ddylunio.

Mae’r prosiect hwn yn cyfateb i ‘Action Plan for Design-driven Innovation’ (2013) y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n cydnabod dylunio yn “offeryn hygyrch am arloesi sy’n canolbwyntio ar ddefnyddyw a’i yrru gan y farchnad ym mhob sector yr economi” ac yn galw ar ranbarthau Ewropeaidd i ddatblygu eu Cynlluniau Gweithredu ar gyfer Dylunio.

Trwy gyfnewid gwybodaeth yn rhyng-ranbarthol, bydd y prosiect yn nodi’r arferion gorau mewn mecanweithiau cefnogi dylunio i fentrau bach a chanolig ac yn cydweithio â gwneuthurwyr polisi i integreiddio dulliau cymorth am ddylunio yn rhaglenni gweithredol yr ERDF.

Nod partneriaid y prosiect yw i 1,600 o fentrau bach a chanolig elwa ar ddulliau cymorth (ariannol ac anariannol) i ddod â chynhyrchion a gwasanaethau mwy arloesol, haws eu defnyddio, a phroffidiol i’r farchnad.

I lywio gwneud polisi ar sail tystiolaeth yn well, bydd y partneriaid yn monitro effaith ac yn gwerthuso effeithiolrwydd y mecanweithiau a ddefnyddir yn ystod y cyfnod monitro 24 mis. Caiff y canlyniadau eu rhannu yn ystod cynhadledd flaenllaw ym Mrwsel yn 2021.

Bydd PDR yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall yn well sut gall dylunio gyflawni blaenoriaethau arloesi i Gymru. Er enghraifft, trwy gefnogi 200 o gwmnïau i elwa ar gymorth dylunio o fewn rhaglenni ariannu arloesedd er mwyn dod â chynhyrchion a gwasanaethau newydd i’r farchnad sy’n ymateb yn well i anghenion defnyddwyr.

DR ANNA WHICHER | PENNAETH POLISI | PDR (PRIF ARCHWILYDD DESIGN4INNOVATION)

Dewch i Drafod

Cysylltu