The PDR logo
Rhag 17. 2021

PDR yn 2021: Adolygiad o’r Flwyddyn

Bu’n flwyddyn brysur yn stiwdio PDR; gydag aelodau newydd o staff, gwobrau newydd ac anrhydeddau newydd ar gyfer ein tîm gweithgar, mae gennym lawer i edrych yn ôl arno a meincnod gwych er mwyn anelu hyd yn oed yn uwch yn 2022.

IONAWR - MAWRTH

Fe wnaethom gychwyn y flwyddyn trwy ddarganfod ein bod wedi ennill pedair o Wobrau GOOD DESIGN® 2020 ar gyfer y prosiectau Snoozeal®, Brace, Cooltone ac Airora.

Yn y misoedd wedyn, fe wnaethom groesawu Cat Taylor yn ôl, ein Uwch Ddylunydd sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr newydd, ar ôl iddi gwblhau ei lleoliad Meistr gyda ni yn 2014, a John MacPherson, Uwch Ymgynghorydd Dylunio – roedd y ddau’n ychwanegiadau gwych i'r tîm yn gynnar yn y flwyddyn.

Ym mis Mawrth, cawsom ein cynnwys yn y newdesign Yearbook 2021, y cylchgrawn sy'n ddeunydd darllen angenrheidiol ar gyfer unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r byd dylunio, gyda’i sylw i gynhyrchion, arloesi, gwasanaethau a'r broses ddylunio.

Tua'r un pryd, fe wnaethom rannu newyddion am ddwy Gymrodoriaeth Ymchwil Dylunio Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a ddyfarnwyd i Dr Katie Beverley, Uwch Swyddog Ymchwil, a Dr Anna Whicher, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil - cydnabyddiaeth haeddiannol i ddau aelod gwych o dîm PDR.

EBRILL - MEHEFIN

Ym mis Ebrill, roedd hi’n anrhydedd cael ennill 4 Gwobr Dylunio iF ar gyfer 2021, gan gynnwys Gwobr Aur iF am y Female Brace, CoolSculpting Elite, Hydroxl Aura a Shield.

Daeth y Gwanwyn â dyfodiad newydd i'r tîm; roeddem yn falch iawn o ychwanegu Lucie Thomas, Intern Cyswllt Marchnata at rengoedd PDR; i helpu i hyrwyddo'r gwaith a wneir gennym a'n tîm sy’n tyfu.

Roeddem wrth ein boddau hefyd o weld arddangosfa 'Bywyd Richard Burton' yn agor yn Amgueddfa Cymru o'r diwedd, ar ôl cyfnod anodd o gyfyngiadau symud a arweiniodd atom yn ailddatblygu ac ailgynllunio'r arddangosfa i fod yn Covid-ddiogel.

Ein prif newyddion o’r flwyddyn, o bosib, oedd bod PDR wedi cyrraedd brig yr iF World Design Guide Index - cyflawniad rhyfeddol a arweiniodd atom yn dathlu am wythnosau lawer! Mae gwobrau a theitlau fel hyn yn helpu i atgyfnerthu dilysrwydd ein dull gweithredu, a'r manteision y gall dylunio eu cynnig i bob math o ddefnyddwyr cynnyrch a gwasanaethau - dyna sut rydym yn aros yn graff, â ffocws pendant ac ar ein gorau glas, gan sicrhau ein bod ni’n parhau i ddyrchafu’r hyn a wnawn a’r ffordd y’i gwneir gennym.

GORFFENNAF - MEDI

Ddechrau mis Awst, gallom gyhoeddi ein cais llwyddiannus am £50m o gyllid gyda'n rhiant-sefydliad, Met Caerdydd, a'r consortiwm media.cymru oedd newydd ei sefydlu.

Yn newyddion y tîm, ymunodd Jonas Gentle â ni fel ein Dylunydd sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr diweddaraf, tra soniodd Jarred Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr PDR, am ei benodiad newydd fel Athro mewn Arloesi Dylunio Cymhwysol.

Parhaodd rhes o lwyddiannau ein prosiect Shield wrth iddo ennill Gwobr Efydd IDEA, a chafodd Hydroxyl Aura a Female Brace ganmoliaeth am gyrraedd y rownd derfynol.

HYDREF - RHAGFYR

Wrth i'r hydref gyrraedd, dathlodd Anna Whicher ei statws newydd fel Athro gydag erthygl yn archwilio'r gwersi a ddysgwyd ganddi, a bu’r tîm yn brysur yn croesawu Katie Forrest Smith, ein harbenigwr Lliwiau, Deunyddiau, Gorffeniad (LlDG) newydd a ymunodd â ni i ddatblygu ein labordy LlDG newydd, a'n Dylunydd sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr diweddaraf, Catriona Mackenzie.

I gwblhau gwobrau'r flwyddyn, roeddem wrth ein boddau i ennill Gwobr Red Dot: Design Concept ar gyfer Shield yn y categori Cynaliadwyedd! Bu eco-ddylunio’n agwedd bwysig ar ein gwaith ers amser maith, felly mae derbyn y math hwn o gydnabyddiaeth yn swyddogol bob amser yn wych.

Wrth inni nesáu at 2022, hoffem ddiolch i bob aelod o'n tîm prysur a diwyd am eu gwaith caled eleni; o'u herwydd nhw y mae ein gwobrau a'n anrhydeddau’n bosibl. Efallai na wyddom yr hyn sy’n ein haros y flwyddyn nesaf, ond gallwn fod yn sicr y bydd yn flwyddyn o ragor o ddylunio ac arloesi sy’n torri tir newydd gan y bobl sydd y tu cefn i PDR. Iechyd da i 2022!