The PDR logo
Chw 22. 2021

Cyfarfod Cat

Nid yw PDR yn ddieithr i Cat Taylor, yr aelod newydd diweddaraf o’r tîm. Graddiodd Cat o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a chwblhaodd leoliad Meistr gyda ni yn 2014 – a dyma hi’n ôl i gael mwy!

Yn flaenorol, roedd Cat yn Beiriannydd Defnyddioldeb mewn cwmni cynhyrchion anifeiliaid anwes clyfar, yn datblygu dyfeisiau a oedd yn integreiddio â microsglodion i wneud bywyd perchnogion (ac anifeiliaid anwes) yn haws. Rydyn ni wrth ein boddau ei bod wedi (ail)ymuno â’n tîm 7 mlynedd yn ddiweddarach, ac ar ôl ymuno â ni fel Arbenigwr UCD ddechrau mis Chwefror, yn sicr bydd rhaid iddi weithio’n gyflym …

Rydw i’n gweithio ar tua 5 o brosiectau eisoes, sy’n wych – yn enwedig gan ein bod yn gweithio o bell, felly rydw i’n falch iawn fy mod i’n brysur o’r cychwyn cyntaf!

CAT TAYLOR | ARBENIGWR UCD | PDR

Er bod ei rôl yn canolbwyntio ar waith ymchwil a dull dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, mae Cat yn edrych ymlaen at weithio ar amrywiaeth o brosiectau. “Ar ôl gwneud fy ngradd Meistr ar UCD, fy hoff ran o’r broses ddylunio, mae’n wych cael mynd yn ôl i’r maes hwnnw – ond rydw i’n edrych ymlaen hefyd at gael cydweithio â’r tîm ar Ddylunio Gwasanaethau a’r prosiect Clwstwr project, a mwy o brosiectau defnyddwyr hefyd.”

Working on multiple projects was part of the appeal - as was our friendly team. “Knowing the company as I did, it’s great to come back to a few familiar faces. Everyone’s been really friendly and really understanding of the fact I’m starting remotely, and it’s been so nice interacting with everyone at the weekly quizzes. I’m really looking forward to getting back in the office and meeting everyone in person.”

Y tu allan i’r gwaith, a chyn y pandemig, roedd Cat yn deithiwr brwd. “Rydw i a’m partner wrth ein boddau mynd i leoliadau pell, a chodi pac a chrwydro – un o fy hoff anturiaethau oedd Costa Rica, ond roedd Sri Lanka, Cambodia a Vietnam yn wych hefyd. Unrhyw le poeth, a dweud y gwir!”

Mae sgiliau creadigol Cat yn dod i’r amlwg hefyd. Fel rhywun crefftus, mae Cat wrth ei bodd yn cadw dyddlyfrau, darlunio a gwnïo – ond ei phrif ddiddordeb yw crochet. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, defnyddiodd Cat ei dawn crochet i wneud teganau gan wneud tedis ar ffurf ‘gweithwyr allweddol’, fel nyrsys, gweithwyr post a meddygon. Casglodd Cat gyfanswm o £600 at y Groes Goch gyda’i doniau crochet. “Roedd yn ffordd o gadw mhwyll ac yn rhywbeth i wneud i ladd amser! Cefais ddefnyddio fy sgiliau creadigol er budd rhywun arall, sy’n hyfryd.”

Rydyn ni’n falch iawn o ychwanegu doniau Cat at y tîm PDR ac edrychwn ymlaen at weld ei hymdrechion yn y maes dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn dwyn ffrwyth.