The PDR logo
Rhag 01. 2021

Dewch i gwrdd â Catriona, ein Dylunydd sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr diweddaraf

Rydym wrth ein boddau i gyflwyno ein recriwt diweddaraf, Catriona Mackenzie, sy’n ymuno â ni fel Dylunydd sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Mae ein harbenigwyr DCD yn rhan o’r grym gyrru ar gyfer llawer o brosiectau PDR, ac rydym yn falch o ychwanegu wyneb cyfeillgar arall at y tîm!

Felly, i ddysgu am yr hyn a wneir gan Ddylunydd sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, a pham fod ei rôl yn PDR mor allweddol, fe wnaethom eistedd i lawr gyda Catriona am rownd o gwestiynau...

“Pan glywais am y rôl, roedd yr amrywiaeth o brosiectau yn PDR yn apelgar iawn i mi – roedd natur y prosiectau’n gweddu i’r math o waith yr ydw i eisiau ei wneud hefyd. Mae’n amlwg iawn bod PDR yn gwmni sydd â diddordeb gwirioneddol mewn gwneud dyluniadau da, nid dim ond masgynhyrchu llawer o gynhyrchion gwahanol er mwyn gwneud hynny,” eglura Catriona.

Cyn ymuno â ni, roedd Catriona – sydd â gradd mewn Peirianneg Cynnyrch a gradd Meistr mewn Arloesi Dylunio – yn brysur yn dylunio arddangosiadau, brandio a deunydd busnes atodol ar gyfer oriel gelf nôl yn yr Alban, ei mamwlad. “Roedd hi’n drist gadael, ond y rôl yn PDR oedd swydd fy mreuddwydion – roedd rhaid imi fynd amdani!”

Yn ei rôl ddyddiol hyd yma, mae Catriona wedi bod yn dwli ar amrywiaeth y gwaith. “Mae pob diwrnod mor wahanol i’r nesaf. Fe allech fod yn mynd ar daith ymchwil i wneud arsylwadau yn y cnawd, neu fe allech fod yn gwneud darluniau a byrddau stori, neu’n cynnal gweithdai – rydw i wedi gwneud cymaint yn barod. Mae hi wedi bod yn gyffrous iawn!”

Yn naturiol, mae ehangder eang o waith yn golygu ystod eang o brosiectau; “Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar rai astudiaethau ‘mewnwelediad y defnyddiwr’ diddorol iawn, ac rydym ar y cam cyfweld – rydym hefyd ar y cam cysyniad ar gyfer peth gwaith dylunio gwasanaeth. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o ysgrifennu tendrau ar gyfer gwaith newydd, sy’n elfen gyffrous iawn i fod yn rhan ohono mor fuan.”

Gan sôn am y tîm a’n diwylliant, dyweda Catriona: “Mae pawb yn hollol hyfryd a byddant yn mynd allan o’u ffordd i’ch helpu chi, sydd mor neis – maen nhw i gyd ar gael i’ch cefnogi chi os oes angen hynny arnoch. Mae pob un person yn berffaith!”

Pan nad yw hi’n gweithio, mae Catriona’n dwli ar deithio, gyda gwyliau mewn dinas ar frig y rhestr. “Rwy’n dwli ar flasu bwyd newydd a dod o hyd i amgueddfeydd newydd i ymweld â nhw.” Ar ôl gofyn iddi am ei chyrchfan ‘rhaid mynd yno’ nesaf, mae’n dewis Porto, ym Mhortiwgal. “Rwyf wedi treulio penwythnos yn Lisboa ac fe wnes i ddisgyn mewn cariad â Phortiwgal, felly dyna fyddai fy man galw nesaf. Munich hefyd, ond mae Porto’n sicr yn dwymach!”

Ac o ran ei dawn gudd nad yw’r tîm PDR yn gwybod amdani eto? “A dweud y gwir, rwy’n fframiwr lluniau proffesiynol,” mae Catriona’n cyfaddef. “Rydw i wedi fframio llawer o waith celf a phethau cofiadwy diddorol. Mae’n arbenigedd doniol ond mewn gwirionedd mae’n sgil defnyddiol iawn a ddysgais o’r dechrau un!”

Hoffai pawb ohonom yn PDR groesawu Catriona’n swyddogol i’r teulu, ac i Gaerdydd ei hun – mae’n wych eich cael chi gyda ni!

Dysgwch ragor am sut beth yw gweithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.