The PDR logo
Ion 20. 2022

Pam ddylai llywodraethau lleol fod yn defnyddio dylunio i greu polisïau?

Mae defnyddio dylunio i greu polisïau’n golygu rhoi methodoleg dylunio, ynghyd â’i offer a’i dechnegau creadigol, ar waith yng nghyd-destun creu polisïau a strategaethau. Pan fydd llywodraethau’n defnyddio dylunio wrth lunio polisïau newydd, gellir mynd i’r afael â heriau sy’n gofyn am atebion ar lefel wleidyddol uwch drwy weithredu egwyddorion dylunio cyfranogol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a chyd-ddylunio.

Er enghraifft, gellid gofyn i ddylunwyr gynnig atebion i helpu pobl ddigartref, megis pebyll neu sachau cysgu gwell – ond trwy ddefnyddio dylunio ar y cychwyn wrth greu polisïau, gellir datrys problemau fel tlodi a digartrefedd yn eu cyfnodau cynharaf, gan ddileu’r angen am atebion cyflym, dros dro yn ddiweddarach.

Yn ein fideo diweddaraf, mae Piotr Swiatek yn archwilio sut y gall llywodraethau ddefnyddio dylunio i greu polisïau, a pham fod dylunio’n hanfodol i hyrwyddo ‘daioni cymdeithasol’ i wella cymdeithas.