The PDR logo
Ebr 15. 2021

Rydym yn falch o rannu erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dr. Anna Whicher, PDR

Mae erthygl cyfnodolyn, dan y teitl ‘Evolution of policy labs and use of design for policy in UK government’, yn astudio llwyddiant a chyfleoedd labordai polisi - y timau llywodraeth amlddisgyblaeth sy’n arbrofi gydag ystod o ddulliau arloesi, yn cynnwys dylunio, i gynnwys dinasyddion yn natblygiad polisi cyhoeddus.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar 18 Mawrth 2021 yn y cyfnodolyn Policy Design and Practice, ac roedd papur Anna yn benllanw 2 flynedd o waith ac ymchwil i’r defnydd cynyddol o ddylunio o fewn polisi cyhoeddus, a gwblhawyd ar gyfer ei Chymrodoriaeth Ymchwil Dylunio gyda Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Drwy gyfweliadau, gweithdai a chyfnodau trochi preswyl, lluniwyd fframwaith mewn dull iteraidd i ddatblygu, adolygu a gwerthuso labordai polisi a thimau dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr sy’n archwilio Cynigion, Cynhyrchion, Pobl a Phrosesau. Mae’r fframwaith hwn yn galluogi labordai i ddilyn eu cyngor eu hunain a defnyddio dulliau dylunio er mwyn adolygu ac arloesi eu modelau’n barhaus. Mae’r erthygl yn cyflwyno hefyd deipoleg o fodelau cyllido ar gyfer labordai yn seiliedig ar y ffyrdd y mae’r broses o ariannu Labordy Polisi yn yr Adran Addysg a’r Northern Ireland Innovation Lab wedi newid dros y blynyddoedd.

Llwyddodd Anna i roi’r modelau hyn ar waith gyda gwahanol adrannau’r llywodraeth gan gynnwys Labordy Polisi CaThEM, Grŵp Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Adran Gyllid Gogledd Iwerddon, a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.

Hoffem longyfarch Anna ar gyhoeddi ei herthygl cyfnodolyn llwyddiannus a’r dylanwad y mae’r erthygl eisoes wedi’i gael yn llywodraeth y DU – mawr obeithiwn y bydd mwy o ganfyddiadau academaidd Anna yn cael eu rhoi ar waith yn y dyfodol gyda chanlyniadau gwych.

Diddordeb darllen mwy? Gweld erthygl Anna yn llawn

Dysgwch fwy am waith PDR neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.