The PDR logo
Ebr 29. 2022

Cofleidio ein Gwahaniaethau: Dylunio ar gyfer Gofal Iechyd ac Addasu - Yr Athro Dominic Eggbeer

Ar ryw adeg yn ein bywydau, byddwn ni i gyd yn dibynnu ar ofal iechyd. I lawer, gall effaith clefyd neu drawma fod yn ddwfn, felly mae sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn hygyrch, yn effeithlon ac wedi’u personoli i anghenion unigryw’n bwysig. Mae dylunio’n bwnc eang sydd â photensial enfawr i wella iechyd, lles ac effeithlonrwydd mewn darpariaeth gofal iechyd. Mae datblygiadau cyflym mewn technolegau cysylltiedig, megis argraffu 3D, yn golygu bod pobl yn dychmygu dyfodol lle mae cynhyrchion meddygol wedi’u personoli’n ymddangos trwy hud, yn barod i’w defnyddio mewn dim o dro. Mae cyfleoedd cyfareddol ar gael, ac mewn rhai achosion, mae galluoedd dylunio a thechnoleg yn rhagori ar yr hyn y mae pobl yn meddwl sy’n bosibl. Mae pethau a oedd yn arloesol ac arbenigol gwta ddeng mlynedd yn ôl bellach yn cael eu defnyddio’n eang yn glinigol heddiw. Fodd bynnag, mae yna wahaniaeth rhwng yr hyn y mae’r cyfryngau’n aml yn ei bortreadu fel rhywbeth sy’n bosibl, â’r gwirionedd.

Yn y bôn, mae dylunio’n broffesiwn sy’n canolbwyntio ar bobl, yn enwedig mewn gofal iechyd. Rhaid cyflwyno dulliau dylunio a thechnolegau newydd mewn ffordd gynaliadwy sy’n mynd i’r afael ag anghenion pobl, wrth fod yn ofalus ag adnoddau, yn effeithlon ac yn hyblyg i newidiadau.

Darlithowedd Athrawol

Cofleidio ein Gwahaniaethau: Dylunio ar gyfer Gofal Iechyd ac Addasu, Yr Athro Dominic Eggbeer, PDR

Dydd Iau 5ed Mai 2022

Derbyniad Diodydd o 4yh ar gyfer dechrau am 5yh

Digwyddiad Hybrid (dewiswch yr opsiwn tocyn cywir: Rhithiol / Ar y Campws)

Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn

Bydd y ddarlith hon yn archwilio gorffennol, presennol a dyfodol dylunio, a thechnolegau mewn gofal iechyd o safbwynt pobl. Trwy ddeall y bobl yr effeithir arnynt gan gyflwyno dulliau newydd, bydd yn ystyried sut mae angen i wasanaethau gofal iechyd ddatblygu a sut y gallwn gofleidio arloesi technoleg ddylunio i gyrraedd yno.

Yr Athro Dominic Eggbeer sy'n arwain y grŵp ymchwil Dylunio Llawfeddygol a Phrosthetig yn PDR. Mae wedi ymrwymo i wella iechyd a lles trwy ddatblygu technolegau peirianneg dylunio mewn gofal iechyd. Datrysydd problemau creadigol yw Dominic gydag 20 mlynedd o brofiad, ar ôl datblygu a phortffolio helaeth o allbynnau ymchwil, prosiectau peirianneg dylunio, gweithdai a gwasanaethau masnachol. Ariannwyd y gwaith hwn trwy amrywiol gyrff UKRI, Elusennau a Llywodraeth. Yn ogystal â bod yn Bennaeth y tîm Dylunio Llawfeddygol a Phrosthetig yn PDR, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, mae gan Dominic swydd er Anrhydedd fel Ymgynghorydd Dylunio ac Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Gellir gweld allbynnau ymchwil Dominic yma.