The PDR logo
Medi 21. 2021

PDR yn cipio’r Efydd yn IDEA 2021 ar gyfer Shield

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi bod PDR wedi ennill Efydd yn yr IDEA mawreddog ar gyfer ein prosiect bag draenio wrinol Shield. Llongyfarchiadau i’r tîm cyfan!

BETH YW IDEA?

Cynhelir yr International Design Excellence Awards yn flynyddol gan yr Industrial Designers Society of America (IDSA). Hi yw un o’r rhaglenni dylunio â’r rhediadau hiraf, mae’r IDEA yn cydnabod cyflawniadau arloesol yn fyd-eang ym maes dylunio.

YNGLŶN Â’R PROSIECT SHIELD

Dewis arall syml a chost isel i’r bagiau draenio wrinol a ddefnyddir gartref gan filiynau o bobl ledled Ewrop bob blwyddyn yw Shield. Mae gwelededd wrin, yn ogystal ag anawsterau trin a gwagio, wedi achosi cywilydd a gofid i lawer.

Dyluniad lluniaidd a chynnil sy’n datrys y problemau hyn yw Shield. Crëwyd defnydd didreiddedd uchel a ffrâm hawdd ei defnyddio’r bag ag urddas y defnyddiwr terfynol mewn cof. Wedi’i wneud o ddeunydd lapio hambyrddau sterileiddio plastig a llenni o theatrau ysbytai wedi’u hailgylchu, a fyddai’n mynd i safleoedd tirlenwi fel arall, mae’r dyluniad yn ddewis arall llawer mwy cynaliadwy na hen fersiynau.

Trwy Shield, mae PDR wedi darparu ateb a fydd yn gwella profiad cleifion a gofalwyr fel ei gilydd.

EIN BARN AR Y WOBR

Dywedodd Jarred Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr PDR: “Roeddwn i wrth fy modd i glywed am ein buddugoliaeth. Gan wybod y buom yn erbyn llawer o oreuon y byd, mae gwobr Efydd yn glod mawr yn wir.

Mae’r wobr hon yn ein helpu ni i atgyfnerthu dilysrwydd ein dull, a’r buddion y gall dylunio ei gynnig i bob math o ddefnyddwyr cynnyrch a gwasanaethau.

JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR

ANRHYDEDDAU PELLACH

Derbyniodd dau o brosiectau eraill PDR gymeradwyaeth am gyrraedd rownd derfynol y gwobrau IDSA.

Dyfais sy’n allyrru aer glân a di-haint i’r rheiny sy’n fwyaf agored i bathogenau a llygredd yw Hydroxyl Aura, a brês yw Female Brace y’i dyluniwyd i drin pectus carinatum – camffurfiad asgwrn dwyfron sy’n ymwthio allan – mewn merched yn eu harddegau.

Mae gwaith o’r fath yn crynhoi ymrwymiad PDR i arloesi dan arweiniad dylunio. Fel erioed, rydym yn falch iawn o gael ein gwaith wedi’i gydnabod ar raddfa fyd-eang.


CAMAU NESAF

Dysgwch ragor am waith arobryn PDR – neu i gychwyn eich prosiect eich hun, cysylltwch â ni.