The PDR logo
Ebr 06. 2018

Ymchwil defnyddwyr i lywio strategaeth

Mae "Meddwl Dylunio" bellach yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel dull creadigol o ddatrys problemau y gellir ei ddefnyddio mewn meysydd ymhell y tu hwnt i'r rhai traddodiadol. Mae'r "diemwnt dylunio", yn dangos meddwl dylunio fel proses linellol sydd â chyfnodau archwilio, dargyfeiriol a chyfnodau gwneud penderfyniadau cydgyfeiriol sy'n hwyluso'n benodol y ddealltwriaeth o'r dull gweithredu ar gyfer ymarferwyr busnes a rheoli. Mewn gwirionedd, anaml y bydd ymchwilwyr dylunio yn gweithredu mewn modd gwirioneddol linellol ag yr hoffai'r diemwnt dwbl i chi gredu, ond nid yw'n newid natur greiddiol 'meddwl dylunio' fel strategaeth datrys problemau, a bydd cael empathi â'ch rhanddeiliaid yn arwain at atebion gwell.

Rwy'n hoffi cyfeirio at y gwaith rwy'n ei wneud fel rhan o'r tîm Dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn PDR fel 'datrys problemau cymhleth’. Rydym yn defnyddio cymysgedd o ddulliau ymchwil i’r farchnad ac ymchwil defnyddwyr, sgiliau dadansoddi a meddwl, a dulliau syniadaeth i feddwl am atebion arloesol i broblemau cymhleth. Mae mwy a mwy o'r problemau a gyflwynir i ni gan gleientiaid yn 'strategol'. Yn hytrach na'r cwestiwn penodol a chyfredol "dyluniwch gynnyrch/gwasanaeth sy'n...", rydym yn wynebu problemau amwys sy’n edrych ar y dyfodol fel "beth ddylem ni ei wneud ymhen 5/10/20 mlynedd?”.

BETH YW RÔL YMCHWIL DEFNYDDWYR MEWN DYLUNIO STRATEGAETHAU?

Bydd dadansoddi tueddiadau a'r farchnad ochr yn ochr â chasglu dealltwriaeth o dechnolegau a chyd-destunau’r dyfodol drwy gyfweliadau ag arbenigwyr (y tu allan i'ch cwmpas arferol) ac adolygu llenyddiaeth bresennol yn rhoi cipolwg ar y mathau posibl o ddyfodol y bydd yn rhaid i'ch busnes weithredu ynddynt. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon i'r rhan fwyaf ddatblygu strategaeth gydlynol. Mae cwestiynau o hyd ynghylch pa gyfleoedd mae'r dyfodol posibl hwn yn ei gynnig, y lle gorau i'ch busnes fel rhan o'r dyfodol hwn, a sut mae cyrraedd y pwynt hwn?

Credaf mai dyma lle mae Ymchwil Defnyddwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiffinio strategaeth, neu'n hytrach ei dylunio, drwy ganiatáu i ni:

Ddeall y cyfleoedd y mae senarios y dyfodol yn eu cynnig.

Ein helpu i gynllunio'r llwybr.

DEALL CYFLEOEDD Y DYFODOL

Ar ôl cael dealltwriaeth o’r mathau posibl o ddyfodol drwy amrywiaeth o ddulliau ymchwil desg (yn bennaf), gall Ymchwil Defnyddwyr ein helpu i ddeall ein rôl yn y senarios hyn. Byddai rhai ymarferwyr yn dadlau nad yw hyn yn wir, mae llawer o’r farn bod Ymchwil Defnyddwyr ond yn rhoi gwelliannau cynyddrannol, yn seiliedig yn y bôn ar y rhagdybiaeth bod defnyddwyr ond yn gallu rhoi adborth ar yr hyn maen nhw'n ei wybod. Er hynny, nid adborth y defnyddiwr rydym ei eisiau yn y senario hwn, ond dealltwriaeth o'u gwerthoedd a'u dyheadau. Er y bydd rhyngweithiadau cynnyrch yn newid dros amser, pan fyddwch yn treiddio'n ddyfnach i anghenion a gwerthoedd defnyddwyr, anaml iawn y maent wedi'u cyfyngu i dechnoleg neu linell amser.

Er mwyn deall anghenion a gwerthoedd defnyddwyr, rhaid i ni gymryd agwedd fwy creadigol at yr ymchwil ei hun a'r dadansoddiad ohoni. Ofer yw treialon defnyddwyr a metrigau penodedig yma. Yn hytrach, bydd dulliau fel ethnograffeg, archwiliadau diwylliannol a gemau dylunio yn rhoi cipolwg llawer dyfnach ar werthoedd y defnyddwyr. Mae llyfr ardderchog Liz Sanders "The Convivial Toolbox" yn gyflwyniad gwych i'r dulliau a'r ddealltwriaeth o'r lefelau dyfnach hyn o ymddygiad dynol.

Unwaith y byddwn yn deall gwerthoedd y defnyddiwr, gallwn fapio'r rhain ar y senarios posibl ar gyfer y dyfodol a'u his-elfennau: technoleg, amgylcheddau a chyd-destunau defnyddio. At ei gilydd, bydd hyn yn llywio nod terfynol, cyfeiriad strategol a bydd yn ein symud o 'ddyfodol posibl' i 'ddyfodol arfaethedig' wedi'i ddylunio.

DEALL Y PRESENNOL

Fel y bydd unrhyw un llwyddiannus yn dweud wrthych, dyw nod ond yn ddefnyddiol os oes gennym ddealltwriaeth dda o'r man cychwyn. Dylai Dylunio Strategaeth fod yn fwy na datganiad o fwriad neu 'ddyfodol arfaethedig' yn unig, ac yn hytrach dylai fod yn gynllun diffiniedig i gyflawni'r nod hwn. Mae dealltwriaeth o'r presennol yn hanfodol er mwyn nodi'r elfennau coll a'r datblygiadau gofynnol i'n symud o'r presennol i'r dyfodol.

Gall yr anghenion a'r gwerthoedd a drafodwyd yn flaenorol greu fframwaith ar gyfer ymchwilio i'r presennol. Yna gellir defnyddio dulliau Ymchwil Defnyddwyr megis ymchwiliadau cyd-destunol, cyfweliadau a dyddiaduron i ddeall sut mae'r sefyllfa bresennol yn caniatáu neu'n atal y defnyddiwr rhag gwireddu ei anghenion a'i werthoedd. Mae hyn yn diffinio'r presennol, man cychwyn ein taith ac yna gallwn ddefnyddio technegau fel meddwl yn ôl i'n helpu i egluro'r camau sydd eu hangen i symud ar hyd y llwybr hwn.

Mae'n anochel y bydd y llwybr hwn yn heriol. Os nad oes heriau yna nid oes rheswm iddo fod yn 'ddyfodol arfaethedig' yn hytrach na 'phresennol arfaethedig’! Dyma lle gall sgiliau dylunio traddodiadol syniadaeth a chreu cysyniadau helpu i ddarparu datblygiadau arloesol ac atebion i'r heriau hyn. Wrth gwrs, bydd y cysyniadau wedi'u llywio gan yr holl ymchwil a ddaeth cynt: dealltwriaeth ddofn o'r defnyddiwr a'r ymchwil eilaidd ynghylch technolegau, amgylcheddau a chyd-destunau defnydd yn y dyfodol.

CRYNODEB: DYLUNIO STRATEGAETH

Llwybr i gyrraedd y nod yw strategaeth. Rhaid ystyried a dylunio'r llwybr hwn yn union fel y mae'n rhaid ystyried a dylunio'r pwyntiau cyffwrdd ar hyd y llwybr hwnnw. Mae Ymchwil Defnyddwyr yn chwarae rhan hanfodol ochr yn ochr ag Ymchwil i’r Farchnad ac Astudiaethau'r Dyfodol i helpu i ddiffinio'r strategaeth.

Yn PDR, rwy'n ffodus i gael gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl gydag arbenigeddau amrywiol sy'n golygu y gallwn gwmpasu holl ystod y sgiliau ymchwil a dadansoddi sydd eu hangen i ddylunio strategaeth, a'r sgiliau syniadau a chysyniadu i gynnig atebion i'r heriau sydd o'ch blaen ar hyd y ffordd.