The PDR logo
Ebr 28. 2021

PDR yn Ennill 4 Gwobr Dylunio iF, gan gynnwys Aur!

Rydyn ni’n eithriadol o falch cael rhannu’r newyddion bod PDR wedi ennill 4 Gwobr Ddylunio iF ar gyfer 2021 – ac mae un ohonyn nhw’n Wobr Aur iF.

Mae’r brês i ferched, ar gyfer R&D Surgical Ltd, wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer siâp corff merched ifanc yn eu harddegau ac mae’n ddatblygiad o’n ‘brês’ a enillodd Wobr Aur iF. Dyluniwyd y brês er mwyn mynd i’r afael â’r ffaith nad yw fframiau’n addas ar hyn o bryd ar gyfer defnyddwyr benywaidd, ac mae’r bres i ferched wedi derbyn Gwobr Aur iF 2021. Yn ôl panel beirinadu’r Wobr iF: “ Mae’r dyluniad sy’n canolbwyntio ar y bod dynol i’w weld drwy ffurf clir a hwylus y dyluniad ei hun ac yn y cymysgedd o ddeunyddiau. Mae’n gyfforddus, yn ddymunol i’r llygad ac yn hawdd a naturiol i’w ddefnyddio.”

Mae ein henillwyr eraill yn y gwobrau dylunio yn cynnwys CoolSculpting Elite, ar gyfer Allergan Aesthetics. Yn ddiweddar iawn, cawsom sgwrs gyda Jarred Evans, y Rheolwr Gyfarwyddwr i archwilio'r broses ddylunio sy'n sail i'r ddyfais feddygol newydd aroesol hon.

Mae’r Hydroxl Aura, ein trydydd enillydd, yn beiriant puro aer personol y gellir ei wisgo sy’n diogelu’r defnyddiwr mewn modd chwyldroadol, tra bod Shield, stand bag nos ar gyfer cathetrau, wedi ennill ein pedwaredd wobr.

Wrth sôn am ennill y bedair gwobr, roedd Carmen Wong, yr Uwch Ddylunydd Diwydiannol, yn falch bod y brês i ferched wedi derbyn y wobr Aur mawr ei bri.

Rydw i wrth fy modd â’r ddau brosiect brês; mae gallu ailddylunio’r cynnyrch gwreiddiol gan ystyried defnyddwyr benywaidd newydd, a gwneud eu bywydau’n llawer gwell, yn golygu bod yr holl broses ddylunio yn un gwerth chweil. Mae’r ffaith i’r rheithgor iF gydnabod y brês i ferched newydd ochr yn ochr â’r un gwreiddiol yn anhygoel ac yn gwbl haeddiannol i’r cynnyrch ei hun. Mae’n wych bod y prosiectau wedi’u cydnabod a’u gwobrwyo gan banel o arbenigwyr blaenllaw o bob cwr o’r byd – mae’n anrhydedd gwirioneddol bod y gwaith rydyn ni’n ei gynhyrchu wedi cyrraedd yr uchelfannau ac ymhlith y goreuon!

CARMEN WONG | UWCH DDYLUNYDD DIWYDIANNOL | PDR

Llongyfarchiadau i bob aelod o’r tîm am eu gwaith caled a llwyddiant arbennig – ac yn achos teilwng i’w ddathlu!

Gallwch ddarllen rhagor o newyddion am wobrau PDR neu gysylltu i drafod prosiect.