The PDR logo
Medi 28. 2022

PDR yn cipio Gwobr Red Dot Design Concept ar gyfer 2022!

Buddugoliaeth arall i un o’n dyluniadau arloesol, ac mae hon yn arbennig o werthfawr. Mae PDR wedi derbyn Gwobr Red Dot ar gyfer 2022 ar gyfer ein cysyniad dylunio, Stand – System Cymorth Bediatrig!

Mae cymhorthion sefyll yn helpu plant â pharlys yr ymennydd sydd â symudedd cyfyngedig. O hyd, mae gan fodelau presennol y farchnad fframwaith dur cymhleth yn aml a all wneud i deuluoedd a phlant deimlo’n ynysig ac wedi’u stigmateiddio. Cysyniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yw Stand, sydd wedi’i gynllunio i gefnogi defnydd cyfforddus ac i leihau stigma heb gyfaddawdu ar ymarferoldeb, ac sy’n defnyddio ffurf, dewis deunydd a gorffeniad modern. Mae’r eitem yn gwbl addasadwy ac yn hawdd ei roi at ei gilydd. Mae opsiynau gwaelod amrywiol yn annog cerdded neu safiad a chwarae cefnsyth wrth sicrhau ei bod yn hawdd cysylltu hambwrdd gwaith ac ategolion eraill. Mae Stand yn dal plentyn yn ddiogel a chyfforddus fel y gall chwarae, dysgu a bwyta. Mae ei ddyluniad modiwlaidd yn tyfu gyda’r plentyn.

Meddai Jarred Evans, Cyfarwyddwr yn PDR, “Rydw i wedi gweithio ym maes dyfeisiau meddygol a chynhyrchion adfer ers degawdau, ac er bod pethau wedi gwella llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn cynnyrch adfer yn enwedig, mae cymaint o ddyfeisiau ar gael o hyd sy’n stigmateiddio defnyddwyr ac yn cynyddu eu hynysiad. Mae cynhyrchion pediatrig yn arbennig o heriol. Mae cymhorthion sefyll yn enghreifftiau perffaith o hyn, oherwydd er eu bod nhw’n ymarferol, maen nhw fel pe baech wedi’ch clymu mewn cawell metel.”

“Mae unedau sefyll i blant â pharlys yr ymennydd yn broblem arbennig. Mae cymryd rhai o’r gwersi, y deunyddiau, y prosesau gweithgynhyrchu a’r dulliau dylunio rydym yn eu defnyddio mewn cynhyrchion mam a babi cyfoes yn creu atebion dylunio’n gyflym sy’n fwy hygyrch a chynhwysol heb gyfaddawdu ar ymarferoldeb.”

Ynglŷn â’r Gwobrau.

Y Wobr Red Dot Design Concept yw un o’r cystadlaethau mwyaf gwerthfawr a gaiff eu beirniadu’n annibynnol yn y byd. Ceir llawer o filoedd o geisiadau bob blwyddyn gan sawl un o ddylunwyr a sefydliadau mwyaf talentog y byd, a dim ond 9% o’r ceisiadau sy’n ennill nod mawreddog y Red Dot.

Camau Nesaf

Darllenwch ragor o newyddion gwobrau PDR neu cysylltwch â ni i drafod prosiect.