The PDR logo
Tach 30. 2018

Cynlluniau gweithredu arferion dylunio nesaf - Rhan 2

HONG KONG

Cafodd dylunio ei fabwysiadu'n strategol gan Lywodraeth HKSAR mewn anerchiad polisi yn 2017. Mae HKDC yn ceisio llunio dyfodol HK gyda dylunio fel cymhwysedd twf newydd. Rydym wedi hyfforddi 750 o weision sifil yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n lefel arall o arbenigedd i symud o feddwl am ddylunio i wneud dylunio. Gweithredir y polisi dylunio drwy brosiectau wedi’u cyllido a stiwardiaeth o'r brig i lawr. Rydym mewn cyfnod o weithredu.

Yn y mis diwethaf, rydw i wedi cael 20 ymholiad gan adrannau llywodraeth sydd eisiau defnyddio meddylfryd dylunio. Mae’n bwysig dethol yn ofalus a chydweithio gydag adrannau sy’n gweld gwerth strategol dylunio a nid dim ond y manteision cyflym.

EDMUND LEE

LATFIA

Er bod y siwrnai i Design of Latvia 2020 wedi cychwyn flynyddoedd lawer yn ôl, mae'r broses wedi mynd o nerth i nerth yn ddiweddar. Cyflwynodd Lilita Sparāne, y Weinyddiaeth Ddiwylliant, a Dita Danosa, Cyfarwyddwr y Ganolfan Arloesi Dylunio newydd, feysydd thematig allweddol y strategaeth ddylunio. Yn hollbwysig, mae'r Ganolfan Arloesi Dylunio yn fecanwaith allweddol ar gyfer gweithredu uchelgeisiau'r strategaeth.


IWERDDON

Blwyddyn Dylunio Iwerddon 2015, dan arweiniad Cyngor Dylunio a Chrefft Iwerddon, oedd y buddsoddiad mwyaf mewn hybu dylunio gan Lywodraeth Iwerddon. Arweiniodd gwaith ymchwil a throchi newydd yn ID2015 at y Llywodraeth yn datblygu polisi dylunio gyda chwe cham gweithredu. Negeseuon allweddol Karen Henessy oedd bod cefnogaeth uwch wleidyddion gan gynnwys yr Arlywydd a'r Gweinidog Busnes yn hanfodol i greu gwaddol y tu hwnt i'r digwyddiad proffil uchel, felly hefyd werthusiad o'r effaith.

Roeddem ni arfer defnyddio’ch rhifau chi, nawr mae gennym ni ein hystadegau ein hunain i ennyn diddordeb y llywodraeth.

KAREN HENNESSY

SBAEN

Does dim polisi dylunio pwrpasol yn Sbaen nac yng Nghatalwnia chwaith. Fodd bynnag, mae Canolfan Ddylunio Barcelona wedi gwneud llawer o waith i fapio eu hecosystem ddylunio ac ysgogi rhanddeiliaid i sicrhau bod cynllun gweithredu’r dyfodol yn addas i'r diben. Rhannodd Isabel Roig, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Ddylunio Barcelona, ei syniadau ar fesur a chyfleu gwerth dylunio i lunwyr polisi a gafwyd drwy arwain y prosiect €Design. Pwysleisiodd yr angen i ddiffinio dangosyddion a mesurau llwyddiant yn glir, a chasglu data cymaradwy yn rheolaidd ar hyd a lled gwledydd Ewrop. Gadawodd Isabel gwestiwn rhethregol i'r gynulleidfa:

Os oes astudiaethau lu yn dangos bod cwmnïau â’r ymrwymiad cryfaf i ddylunio yn fwy llwyddiannus ond mai dim ond 12% o gwmnïau’r UE sy’n cymryd dyluniad ar y lefel strategaeth, pam mae rhai llywodraethau’n gyndyn o hyd i fuddsoddi mewn Cynllun Gweithredu Dylunio?

ISABEL ROIG

MALTA

Cyflwynodd Kevin Vella, Economegydd o'r Is-adran Polisi Economaidd yn y Weinyddiaeth Gyllid, ganlyniadau'r dadansoddiad o weithgarwch dylunio ar lefel cwmnïau ym Malta. Roedd yr arolwg o 1,840 o gwmnïau yn dangos:

Bod gwaith dylunio ym Malta yn dueddol o gynyddu wrth i gwmnïau dyfu ac mae'n fwy cyffredin ymhlith mentrau sy'n canolbwyntio ar allforio;

Dyw cwmnïau newydd llai yn enwedig ddim yn manteisio digon ar botensial dylunio fel ffynhonnell gystadleuol nad yw'n seiliedig ar bris, i'w helpu i dyfu;

Mae arbedion maint yn cyfyngu ar broffidioldeb gweithgarwch dylunio ymhlith cwmnïau llai;

I gwmnïau canolig eu maint, gall gweithgarwch dylunio fod yn fwy proffidiol. Mae'r rhain fel arfer yn gwmnïau sydd eisoes wedi ennill eu plwyf yn y farchnad ac sy'n gallu elwa ar arbedion maint.

Mae'r Weinyddiaeth yn gweithio'n agos gyda phartner prosiect Design4Innovation – Valletta 2018 Foundation, i greu cynllun gweithredu a fydd yn helpu busnesau i fanteisio'n llawn ar botensial dylunio.

Y COMISIWN EWROPEAIDD

Cyhoeddodd Silvia Draghi, Swyddog Polisi o'r Uned Diwydiannau Twristiaeth, Datblygol a Chreadigol yn DG GROW, fwriad y Comisiwn i ddatblygu polisi Diwydiannau Creadigol newydd a rhoddodd gyngor ar sut y gall y gymuned ddylunio sicrhau bod nodweddion dylunio yn rhan o'r agenda newydd. At hynny, bydd y Comisiwn yn drafftio polisi arloesi newydd ac mae angen i randdeiliaid dylunio sicrhau bod dylunio yn parhau i fod yn flaenoriaeth arloesi fel yr oedd yn yr Undeb Arloesedd polisi.