The PDR logo
Hyd 28. 2022

Realiti Meta a Ffisegol, a Deunyddiau Arloesol yng Ngŵyl Ddylunio Llundain

Roedd y mis Medi hwn yn nodi ugain mlynedd ers dechrau Gŵyl Ddylunio Llundain. Mae’r ŵyl yn cynnig y cyfle i ddathlu a hyrwyddo creadigrwydd y ddinas, gan uno dylunwyr o bob rhan o’r byd. Mae’r ŵyl, sy’n cynnwys cannoedd o ddigwyddiadau wedi'u gwasgaru ar draws y ddinas, yn caniatáu i ddylunwyr rannu cynhyrchion newydd, syniadau arloesol, a ffyrdd newydd o feddwl.

Dyma beth welsom ni yng Ngŵyl Ddylunio Llundain 2022…

Cyfuno Realiti Meta a Ffisegol

Un o’r themâu yn ystod yr wythnos gyfan oedd archwilio sut y gellir cyfuno realiti meta a ffisegol. Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu, bydd y ffiniau rhwng gofodau meta a ffisegol yn dechrau pylu ein hagwedd at ddylunio ymhellach, a bydd yn rhaid i ni addasu i ddiwallu'r angen hwn.

Cyflwynodd Sony Design INTO SIGHT, gosodiad llwyfan cyfryngau o wir faint sy'n chwarae ar y synhwyrau, gan ddefnyddio elfennau gweledol a sain i greu profiad trochi a myfyriol wedi'i ysbrydoli gan heriau'r degawd. Mae'r gosodiad yn gwahodd gwylwyr i fyfyrio ar eu hemosiynau a chanolbwyntio arnyn nhw eu hunain heb unrhyw ymyriadau. Calon hyn yw sgrin LED grisial 220-modfedd wedi'i hamgáu mewn blwch deuliw, adlewyrchol. Mae drychau'n adlewyrchu ac yn ystumio'r delweddau llachar a ddangosir ar y sgrin o amgylch y gofod. Defnyddir yr un dechnoleg ar gyfer cynhyrchu rhithiol mewn sinematograffi ac y mae ar y trywydd iawn i ddisodli sgriniau gwyrdd gyda golygfeydd rhithiol tra-realistig.

Fe wnaeth yr artist a'r dylunydd Gary James McQueen a'r ffotograffydd Simon Emmett gydweithio i gyflwyno 'Awakening', sesiwn ffasiwn gwbl ddigidol. Mae drych clyfar yn caniatáu i'r gwylwyr wisgo dillad couture yn rhithiol i amlygu sut y gellir defnyddio technoleg i ddelweddu ffordd fwy cynaliadwy o brofi ffasiwn.

Archwiliodd Xcessive Aesthetics y broses ddyblygu ar draws gofod ffisegol a digidol gyda gosodiad o'r enw 'Not David!'. Roedd y casgliad yn ymchwilio i'r broses o ddyblygu trwy feysydd ffisegol a digidol gan ddefnyddio dulliau digidol megis sganio ac ystumio 3D. Pan gaiff ei ddyblygu mewn gofod digidol, mae'r dull diwylliant digidol hwn yn cwestiynu pwysigrwydd y copi. Gall y trawsnewid gan yr adnoddau digidol hyn ystumio, newid maint ac ail-fframio'r gwerth a roddir ar anatomïau. Yn ystod yr ŵyl ddylunio, cynhaliwyd arbrawf gan Xcessive Aesthetics lle cafodd y tîm eu sganio gan ddefnyddio'r meddalwedd a chwyddwyd eu cyrff. Yna cafodd eu cyrff eu hailosod i'r byd ffisegol i gyflawni'r syniad o ‘lenwi gofod' yn yr amgueddfa.

Gwastraff Fel Deunydd Newydd

Llygredd plastig yw un o'r problemau amgylcheddol mwyaf dybryd yr ydym yn eu hwynebu’n fyd-eang; mae cynnydd cyflym mewn cynhyrchu cynhyrchion plastig tafladwy wedi llethu gallu'r system i ddelio â'r deunyddiau hyn. Mae dylunwyr a gweithgynhyrchwyr yn troi at ddeunyddiau anghonfensiynol i ddatrys problemau cynaliadwyedd yn y broses ddylunio a chynhyrchu drwyddi draw, roedd hyn yn amlwg yn yr ŵyl ddylunio.

Cyflwynodd Adidas Chasing Circularity, dewis o dreinyrs a dillad sydd wedi’u dylunio i gael eu hail-wneud. Yn ystod 2019, rhyddhaodd Adidas FUTURECRAFT.LOOP, yr esgid gyntaf wedi'i gwneud yn gyfan gwbl o un deunydd. Mae hyn yn golygu, ar ddiwedd eu hoes, gellir malu’r esgidiau a'u hail-wneud yn gynhyrchion newydd. Gellir dychwelyd yr esgidiau trwy sganio'r cod QR sydd wedi’i argraffu ar yr esgid. Mae pob pâr o esgidiau’n cael eu hasesu, eu glanhau, a'u taflu’n gyfan i beiriant rhwygo. Yna caiff y deunydd mâl ei gymysgu a'i doddi i belenni TPU; defnyddir y pelenni i gynhyrchu rhannau gwahanol o'r esgid.

Fe wnaeth ‘Crafting Plastic! Studio’ arddangos Nuatan®, bioplastig wedi'i wneud â phriodweddau esthetig a materol newydd. Mae'r deunydd yn cyflwyno dewis arall yn lle plastigau petrolewm traddodiadol. Wedi'i wneud o adnoddau adnewyddadwy 100%, mae Nuatan® gan Crafting Plastic! Studio’n honni bod y deunydd yn fioddiraddadwy 100%. Mae defnydd presennol y deunydd yn cynnwys cynhyrchion gwerth ychwanegol yn y sector nwyddau defnyddwyr.

Cyflwynodd Solidwool Gadair Hembury, sydd wedi'i saernïo o ddeunydd cyfansawdd unigryw, sef gwlân a bio-resin. Daw'r gwlân o ddefaid Herdwick, brîd sy'n cael ei ffermio bron yn gyfan gwbl yn Ardal y Llynnoedd. Yn draddodiadol, defnyddiwyd gwlân defaid Herdwick yn niwydiant carpedi’r DU, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r galw am y defnydd hwn wedi lleihau. Mae Solidwool yn cyflwyno defnydd newydd ar gyfer deunydd sydd fel arall wedi darfod amdano, ac mae gwead gwrychog y ffibrau a'r lliw brith yn rhoi ansawdd esthetig unigryw.

Yn PDR, rydym bob amser yn chwilio am ddeunydd arloesol y gellid ei gymhwyso i gynhyrchion er mwyn mynd i'r afael â phroblemau cynaliadwyedd yn y broses ddylunio a gweithgynhyrchu drwyddi draw. Wrth gymhwyso deunyddiau newydd, mae angen inni sicrhau eu bod nhw’n briodol ar gyfer y defnydd. Mae hyn yn cynnwys ystyried priodweddau’r deunyddiau a sicrhau y gall y seilwaith presennol eu prosesu ar ddiwedd eu hoes.