The PDR logo
Awst 16. 2022

Atgofion o Wythnos Ddylunio Milan: Y Fuorisalone 2022

Bob blwyddyn, mae miloedd o fynychwyr yn heidio i Wythnos Ddylunio Milan, gan ymgolli yn 7 o'r diwrnodau mwyaf cyffrous ac ysbrydoledig a gynhelir yn flynyddol i’r diwydiant dylunio cyfan - ac ar ddechrau mis Mehefin 2022, aeth sawl un o dîm PDR ar awyren i anelu am y cyffro.

Fe wnaeth Katie, Carmen a Dominik (ein Dylunydd Lliwiau-Deunyddiau-Gorffeniad, ein Huwch Ddylunydd Diwydiannol a’n Dylunydd Diwydiannol yn y drefn honno) fynychu’r Fuorisalone – casgliad o ddigwyddiadau a gynhelir ar draws Milan yn ystod yr wythnos, i arddangos yr enghreifftiau mwyaf pwerus o ddylunio arloesol gan gwmnïau blaenllaw’r diwydiant.

"Eleni, y thema oedd 'Rhwng Gofod ac Amser', a oedd yn annog dylunwyr i feddwl am eu nodau cynaliadwyedd a sut y byddan nhw'n esblygu i gwrdd â'r rheiny. Roedd cynaliadwyedd yn thema fawr a oedd yn cadw dod i’r golwg drwy bopeth a welsom," eglura Katie.

Yn ddiddorol ddigon, roedd ffocws cryf ar ddeunyddiau yn llinyn drwy'r digwyddiadau. "Gwelsom lawer o ddylunwyr yn defnyddio deunyddiau anghonfensiynol o ffynonellau anarferol ac yn edrych ar ffyrdd y gellid ail-gynhyrchu deunyddiau. Roedd un deunydd yn ceisio gwneud gwlân o flew ci, er enghraifft; ac roedd llawer o bobl yn ystyried sut y gallai deunyddiau fod yn 'ffynhonnell agored', felly byddai rysáit a rannwyd ar gyfer deunydd yn golygu y gallai unrhyw un ei greu gartref," â Katie yn ei blaen. "O ran cynaliadwyedd, mae'n enghraifft o sut y gallwch chi fod yn hunangynhaliol gyda'r deunyddiau rydych chi'n eu defnyddio."

Wrth drafod canfyddiadau mwy arwyddocaol yr wythnos, mae Dom yn nodi mynychder 'rhyngweithio': "Roedd agwedd ddynol fawr iddo, a phwyslais cryf ar dechnoleg ddigidol a sut y gall wella rhyngweithio rhwng bodau dynol a chynhyrchion."

Yn hynny o beth, roedd gosodiad 'Home Reborn' Hotpoint a Whirlpool yn canolbwyntio ar y teimladau o gysur a llawenydd yr ydym yn eu teimlo pan fyddwn gartref, ac yn chwarae gyda'r synhwyrau i greu eiliadau teuluol gan ddefnyddio arogl brecwast dydd Sul a sŵn potiau jam yn agor.

Fan arall, cyflwynodd Haier 'Connect to Extraordinary', gosodiad atyniadol sy'n archwilio'r syniad o berson sy'n dod yn brif gymeriad gweithredol mewn gofod. Yn syth o dudalennau stori wyddonias Ray Bradbury, mae Haier yn rhagweld cartref y dyfodol fel ei ecosystem hollol ryng-gysylltiedig ei hun o offer sy'n cael ei reoli gan ddeallusrwydd artiffisial ar ap hOn Haier.

"Ond ar yr ochr arall i’r geiniog, roedd llawer o brosesau gweithgynhyrchu newydd ar ddangos," mae Dom yn parhau. "Roedd yna arddangosfa drawiadol gan gwmni argraffu 3D Stratasys, y mae ei argraffydd yn caniatáu ichi greu tecstilau a dillad haenog, felly mae'n wych gweld sut y mae technoleg yn datblygu yn y maes hwnnw."

Mae mynychu digwyddiadau fel Y Fuorisalone yn hanfodol i ni, i barhau i wthio a datblygu ein gwaith ein hunain. "Fel gwasanaeth ymgynghori dylunio byd-eang, mae angen i ni fod ar flaen y gad o ran datblygiadau a thechnoleg, sy'n golygu gweld beth sy'n digwydd yn y byd - cysylltu â phobl a rhannu meddylfryd," eglura Dom. "Mae gweld y ffordd y mae pobl yn meddwl, yn gweithredu ac yn dylunio yn ysbrydoliaeth, achos dyna sut y gallwn ni ddychwelyd i PDR gyda syniadau ffres a ffyrdd newydd o wneud pethau."

Ydych chi eisiau gwybod mwy am Wythnos Ddylunio Milan 2022? Byddwn yn rhannu rhai o'r tueddiadau a welsom yn y dyddiau sydd i ddod, cadwch eich llygaid ar agor!