The PDR logo
Chw 23. 2023

Cwrdd â William Dauncey, Dylunydd Cynnyrch a Chydymaith KTP

Dyma’ch cyflwyno i William Dauncey, sy’n ymuno â PDR fel Dylunydd Cynnyrch a Chydymaith KTP! Mae’n gweithio gyda PDR i ymchwilio i’r technolegau, dulliau dylunio a phrosesau gweithgynhyrchu diweddaraf, y mae wedyn yn eu datblygu ar y cyd â V-Trak, cwmni seddi cadeiriau olwyn sydd am ddysgu am y gweithdrefnau hyn a’u cymhwyso yn ei weithrediadau ei hun.

Mae’r cynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn dod â chwmni yn y DU, sefydliad academaidd, a myfyriwr graddedig cymwys ynghyd mewn cydweithrediad tair-ffordd. Nod y cynllun yw helpu busnesau i gaffael galluoedd newydd, esblygu, ac yn y pen draw cynyddu refeniw. Er mwyn deall ei rôl yn PDR a V-Trak yn well, ac i ddod i adnabod William, eisteddom ni i lawr gydag ef a gofyn cychydig o gwestiynau.

Mae’r drefn yma’n ddelfrydol i mi achos mae’n cynnig y lle perffaith i ddysgu ac ymchwilio ond hefyd yn cadw fy nhraed ar y llawr ac yn gadael i mi gymhwyso’r gwersi yn y byd go iawn. Hefyd rwy’n cael gweld taith cynnyrch o’r dechrau i’r diwedd. Mae rhan o’r broses honno’n golygu fy mod i’n gweld pa wahaniaeth mae’r cynhyrchion yn ei wneud i fywyd y defnyddiwr yn y pen draw yn ystod ymweliadau â chlinigau, sy’n foddhaus iawn ac yn atgyfnerthu’r ymdeimlad o bwrpas y rôl.

William Dauncey | Dylunydd Cynnyrch a Chydymaith KTP | PDR & V-Trak

Cyn ennill ei rôl fel Dylunydd Cynnyrch a Chydymaith KTP, nid oedd William yn anghyfarwydd i PDR. “Astudies i i fod yn Ddylunydd Cynnyrch ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gan raddio yn 2021. Yna arhoses i ymlaen i gwblhau fy ngradd Meistr yn 2022. Roeddwn i bob amser yn gwybod am PDR oherwydd ei enw da iawn am ddod ag arloesiadau newydd i’r farchnad. Bu’n uchelgais gen i weithio iddyn nhw ers tro, felly pan weles i’r swydd hon yn cael ei hysbysebu roedd yn berffaith i mi!”

O’i holi am ei rôl ddyddiol sy’n cael ei rhannu rhwng dau gwmni, dywed, “Mae’r wythnos yn hyblyg iawn - ble bynnag mae angen i mi fod, dwi’n gallu bod yno. Yn nodweddiadol dwi’n gweithio ddydd Llun i ddydd Iau yn V-Trak, ac yna ar ddydd Gwener, dwi’n gweithio yn PDR. Mae’r drefn yma’n ddelfrydol i mi achos mae’n cynnig y lle perffaith i ddysgu ac ymchwilio ond hefyd yn cadw fy nhraed ar y llawr ac yn gadael i mi gymhwyso’r gwersi yn y byd go iawn. Hefyd rwy’n cael gweld taith cynnyrch o’r dechrau i’r diwedd. Mae rhan o’r broses honno’n golygu fy mod i’n gweld pa wahaniaeth mae’r cynhyrchion yn ei wneud i fywyd y defnyddiwr yn y pen draw yn ystod ymweliadau â chlinigau, sy’n foddhaus iawn ac yn atgyfnerthu’r ymdeimlad o bwrpas y rôl.”

Mae William yn dweud mwy am y tîm a’i waith yn PDR, “Dwi wir yn mwynhau’r awyrgylch, mae’n eitha tawel a hyblyg, mae pawb yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud, ac yn ymddiried ynoch chi i gario ymlaen gyda’ch gwaith. Mae pawb yn hynod o gyfeillgar ac yn hawdd mynd atyn nhw, a chan fod amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol, mae’r traws-beillio syniadau yn gallu arwain at atebion dyfeisgar a chyflawn iawn. Ar hyn o bryd dwi’n gweithio gyda’r Athro Dominic Eggbeer PDR ar astudiaeth achos a fydd yn rhoi cynalyddion cefn presennol V-Trak trwy brofion meddygol. Dwi wrthi’n dylunio offer prawf y gallwch chi redeg eu holl gynhyrchion arno i weld a ydyn nhw’n bodloni safonau ISO penodedig (16840-3).”

“Pan fydd yr offer ar waith, prif ran y prosiect fydd ailddylunio un o ategion ochrol V-Trak gan ddefnyddio gweithgynhyrchu ychwanegiadol trwy ddulliau dylunio parametrig a generadol, ac yna cymharu ei berfformid ag ateg ochrol presennol V-Trak gan ddefnyddio’r offer diweddaraf.”

Tu allan i’r gwaith, mae bywyd William yr un mor amrywiol a phrysur - “Dwi’n mwynhau nofio ac yn ceisio ei gadw i fyny trwy fynd i’m pwll nofio lleol. Hefyd dwi’n mwynhau atgyweirio beiciau ffordd yr 80’au yn ogystal â hir-fwrddio, ac yn ddiweddar prynes i hir-fwrdd trydan, sydd wedi gweddnewid popeth! Dwi wrth fy modd yn dylunio pethau hefyd a dod â’m syniadau’n fyw gyda f’argraffwyr 3D. O ran fy mhenwythnos delfrydol, yn fwy na thebyg byddai’n cynnwys ymweliad adref i arfordir Gorllewin Cymru lle dwi’n mwynhau popeth sy’n ymwneud â thywod a’r môr!"

Mae tîm PDR yn estyn y croeso cynhesaf i William. Rydyn ni wrth ein bodd i’w gynnwys yn ein tîm!

Y Camau Nesaf

Dysgwch fwy am y profiad o weithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.