The PDR logo
Chw 07. 2023

Dewch i gwrdd â'n Intern Dylunio newydd, David Balaam

Mae’n bleser gennym gyflwyno ein haelod staff newydd, David Balaam, sy'n ymuno â'r tîm PDR fel Intern Dylunio. Mae David eisoes hanner ffordd drwy ei interniaeth ac wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau sydd wedi rhoi cipolwg o'r diwydiant a phrofiad ymarferol iddo. Er mwyn deall yn well beth mae Intern Dylunio yn ei wneud ac i ddod i wybod mwy am David, fe wnaethom ofyn iddo am ei swydd newydd.

Pam wnaeth David ymgeisio am y rôl Intern Dylunio? “Roedd amrywiaeth y gwaith a'r holl gyfleoedd i ddysgu yn apelio i mi. Rwy'n hoffi’r ffordd maen nhw’n cynnwys ymchwil wyddonol ac academaidd go iawn yn eu gwaith dylunio, gan brofi eu penderfyniadau yn hytrach na dilyn pobl a thueddiadau eraill. Maen nhw’n gwmni llwyddiannus sydd wedi ennill nifer o wobrau ac yn ymwneud ag agweddau diri o'r diwydiant dylunio, gan gynnwys peirianneg feddygol a pheirianneg ddiwydiannol o safon uchel, ac yn bwriadu symud i ddylunio cynaliadwy sy'n apelio’n fawr.”

Roedd amrywiaeth y gwaith a'r holl gyfleoedd i ddysgu yn apelio i mi. Rwy'n hoffi’r ffordd maen nhw’n cynnwys ymchwil wyddonol ac academaidd go iawn yn eu gwaith dylunio, gan brofi eu penderfyniadau yn hytrach na dilyn pobl a thueddiadau eraill.

David Balaam | Dylunio Intern | PDR

Wrth ofyn i David beth fu’n ei wneud cyn ymuno â PDR, dywedodd “Rwyf newydd raddio o'r brifysgol lle bûm yn astudio Dylunio Cynnyrch Cynaliadwy. Cyn hynny, roeddwn yn gweithio ar gychod yn y Diwydiant Morol. Fe wnes i adeiladu ac adfer cychod pren yn ogystal â hwylio cychod a llongau traddodiadol, dros gyfnod o 10 mlynedd. Rwyf bob amser wedi mwynhau rhoi cynnig ar bethau newydd, ac rwy’n mwynhau adeiladu neu drwsio rhywbeth gan ddatrys problemau diddorol. Dyma un o'r rhesymau yr oeddwn am fynd i'r brifysgol - i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i ddilyn llwybrau gyrfaol newydd.”

Felly, sut olwg sydd ar ddiwrnod yn PDR? Meddai David, “Rwy'n cadw fy hun yn brysur gydag ychydig o brosiectau gwahanol ar hyn o bryd. Er, rwy'n gallu mynd i fyny at wahanol ddylunwyr ar y tîm a darganfod pa bethau diddorol maen nhw'n gweithio arnyn nhw i weld a allaf gymryd rhan mewn rhyw ffordd. Mae un o'r prosiectau yr wyf wedi bod yn gweithio arno yn fwy seiliedig ar beirianneg, felly rwy'n treulio cryn dipyn o amser yn y gweithdy lle rwy'n profi prototeipiau. Rwy'n ceisio eu gwella ac yn ceisio deall y gwahanol ffyrdd o wneud hyn. Yna efallai y byddaf yn mynd i sesiwn taflu syniadau neu'n eistedd mewn cyfarfodydd ac yn cael rhai tasgau i’w cyflawni.”

Wrth siarad am ei ddiwrnod gwaith arferol yn PDR, dywedodd David wrthym, “Mae pawb wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol yn ystod fy wythnos gyntaf yma. Mae'r tîm yn gyfeillgar iawn a bob amser yn gwneud yr ymdrech i wneud yn siŵr fod pawb yn iawn. Mae'n le gwych i weithio ynddo! Rydyn ni hefyd yn cael rhannu'r hyn rydyn ni wedi bod yn gweithio arno gyda'n gilydd, sy'n codi’r ysbryd; gallwch chi ddysgu llawer gan y tîm.”

Y tu allan i'r gwaith, mae David yn mwynhau treulio amser ym myd natur a phenwythnosau anturus hir. “Dwi wrth fy modd bod tu allan ym myd natur, bod yn egnïol a mynd ar lawer o anturiaethau!”

Pan ofynnwyd iddo am dalent gyfrinachol nad yw'r tîm yn gwybod amdano, mae David yn parhau i fod yn driw i'w ysbryd creadigol. “Os byddaf yn gweld paled yn gorwedd ar y llawr, byddaf yn mynd ag ef adref gyda mi a’i dorri'n ddarnau ac adeiladu rhywbeth allan ohono. Rwy'n mwynhau creu pethau drwy'r amser! Rwyf hefyd newydd ddechrau cwrs tecstilau a gwnïo i mi gael trwsio fy nillad a gwneud fy nillad fy hun yn y pen draw.”

Hoffai’r tîm PDR estyn y croeso mawr i David. Croeso i’r tîm!

Dysgwch fwy am sut beth yw gweithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.