The PDR logo
Hyd 05. 2021

Gwersi o'r llwybr i fod yn Athro, gan Anna Whicher

Rydw i’n wastad wedi bod y math o berson sydd eisiau cadw torth a’i bwyta hi. Trwy arwain nifer o brosiectau ymchwil rhyngwladol, rydw i wedi cael y cyfle i weithio gydag arweinwyr meddwl ym maes dylunio a pholisi, megis cyfarwyddwyr canolfannau dylunio, penaethiaid labordai polisi mewn llywodraethau rhanbarthol a chenedlaethol yn ogystal ag academyddion blaenllaw yn fyd-eang.

Ers imi ymuno â PDR am y tro cyntaf yn 2009, fy nyhead oedd bod yn rhan o'u rhengoedd, a daeth y nod bywyd hwnnw’n wir yn ystod yr haf pan gefais fy mhenodi'n Athro Dylunio a Pholisi gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae dylunio yng nghyd-destun polisi — boed hynny’n ddylunio mewn polisi arloesi neu ddefnyddio dulliau dylunio ar gyfer llunio polisïau cynhwysol — yn faes arbenigol ond sy'n dod i'r amlwg yn gyflym.

Yn groes i'r teitl, dydw i ddim yn rhy academaidd. Yn ddigon ffodus, ceir llawer o lwybrau i fod yn Athro yn y brifysgol ac fe gymerais y llwybr mwyaf naturiol i mi — trwy fy hanes o gyllid arloesi, cyfraniad at wybodaeth drwy ymchwil yn ogystal ag arweinyddiaeth ryngwladol mewn maes arbenigol. Mae fy holl waith yn gymhwysol iawn gyda phwyslais ar effaith yn y byd go iawn. Rwy'n teimlo'n arbennig o falch o fod wedi dod yn arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n cynghori llywodraethau ledled y byd ar sut i integreiddio dylunio i bolisïau a rhaglenni arloesi yn ogystal â sut i ddefnyddio dulliau dylunio i ennyn diddordeb y cyhoedd yn fwy effeithiol yn y gwaith o ddatblygu polisïau a gwasanaethau. Mae fy ymchwil a'm hymyriadau mewn mwy na 30 o wledydd, gan gynnwys llawer y tu allan i Ewrop, wedi arwain at newidiadau yn y byd go iawn gan gynnwys rhaglenni cymorth dylunio newydd ar gyfer busnesau a phrosesau ymgynghori mwy ystyrlon rhwng adrannau llywodraeth a dinasyddion.

Rwy'n hapus iawn i rannu profiad fy nhaith, os bydd hynny’n helpu egin ymchwilwyr eraill ar y ffordd i arweinyddiaeth. Wrth fyfyrio arno’n awr, roedd nifer o gynhwysion allweddol i'm llwyddiant:

1) effaith ymchwil oddi ar adeg gynnar yn fy ngyrfa;

2) denu cyllid;

3) cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid ysbrydoledig;

4) cefnogaeth sefydliadol.

Effaith ymchwil — rwy'n teimlo'n arbennig o falch fy mod i wedi llwyddo troi ymchwil academaidd yn effaith ymarferol mewn llywodraeth. Ymysg llawer o bethau eraill, rydw i wedi gweithio ar ddatblygu polisïau dylunio yn Iwerddon, Latfia ac Ynysoedd Philippines; wedi dylanwadu ar raglenni cymorth dylunio yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Gwlad Groeg; wedi cefnogi datblygiad labordai arloesi yng Ngogledd Iwerddon a CThEM; ac wedi adeiladu capasiti ar gyfer dylunio ymhlith nifer fawr o sefydliadau'r sector cyhoeddus gan gynnwys Banc Canolog Ewrop.

Denu’r ddoler — allwch chi ddim â dianc rhag y ffaith bod angen cyllid ar ymchwil. Ers dros ddegawd, rydw i wedi arwain amrywiaeth eang o brosiectau a ariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a llywodraethau rhyngwladol a lleol sydd werth dros £10 miliwn. Arweiniais y mentrau hyn drwy gydol eu hoes o ddatblygu'r cysyniadau cychwynnol, casglu partneriaethau a chyflwyno cynigion hyd at weithredu ymyriadau, arwain y consortia, cynnal ymchwil, datblygu strategaethau, rheoli cyllid a gwerthuso effaith. Bûm yn ffodus i ennill dwy Gymrodoriaeth yr AHRC, a fu’n sbardunau amhrisiadwy.

Cydweithio â phartneriaid — mae’r dywediad ‘gorau chwarae cyd chwarae’ yn wir. Bu cyfnewid gwybodaeth gyda phartneriaid yn y DU a thramor yn brofiad arbennig o foddhaol. Mae'n galluogi chwistrelliad newydd o syniadau a datblygiad ailadroddol o gyfleoedd ymchwil a masnachol newydd. Rwy'n falch iawn bod fy nghydweithiwr anhygoel, Piotr Siatek, a fu’n gydymaith imi ar y daith ddeallusol (ac weithiau heriol) hon, yn frwd am y maes gwaith arbenigol hwn hefyd. Mae rhai pobl yn disgrifio'r byd academaidd yn unig ond rhwng y ddau ohonom, rydym wedi creu rhwydwaith rhyngwladol o ffrindiau.

Cefnogaeth sefydliadol — rydw i hefyd yn teimlo'n ffodus iawn y bu’r Athro Jarred Evans, Andy Walters, a Gavin Cawood (er cof amdano) yn gefnogol iawn i'm gyrfa, bob amser yn fy annog i anelu at y prosiect nesaf a neidio'r rhwystr nesaf. I unrhyw un sydd eisiau gwneud cynnydd ar hyd llwybr academaidd, mae cefnogaeth gan uwch arweinwyr yn ffactor sylfaenol — mawr ddiolch i'r tri ohonoch.

Ar ben hyn i gyd, rydw i wedi cael llawer o hwyl wrthi. Rydw i wedi gallu teithio'r byd wrth ddilyn fy angerdd proffesiynol – gyda Bangkok, Bridgetown, Boston, Kiev, Dinas Mecsico, Montreal, Efrog Newydd, Singapore, Taipei a Tbilisi yn uchafbwyntiau arbennig y tu hwnt i Ewrop; rhywbeth y byddaf yn ddiolchgar amdano am byth. Faint o bobl sy'n cael y cyfle i wylio'r machlud ar y traeth ym Marbados ar ôl cyflwyno gweithdy?

Mae fy nrws ar agor i ddarpar ymchwilwyr sydd eisiau dringo'r rhengoedd - felly mae croeso ichi gysylltu.