Jarred Evans yn Ymuno â Rheithgor Gwobr Dylunio iF 2026
Rydym yn gyffrous i rannu bod Jarred Evans, Cyfarwyddwr yn PDR, wedi cael gwahoddiad unwaith eto i ymuno â'r rheithgor ar gyfer Gwobrau Dylunio iF.
Mae Gwobrau iF yn un o'r cydnabyddiaethau mwyaf uchel eu parch yn y byd dylunio, gan ddathlu creadigrwydd ac arloesedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Mae cael ei ofyn i ddychwelyd fel aelod o’r rheithgor yn dyst i arbenigedd a brwdfrydedd Jarred dros ddylunio.
Dywedodd Jarred:
“Mae’n ysbrydoledig gweld cymysgedd mor amrywiol o syniadau o bob cwr o’r byd. Mae Gwobrau iF wedi gosod y safon ar gyfer rhagoriaeth dylunio, ac rwy'n gyffrous i fod yn rhan o'r sgwrs honno eto. Mae'n gyfle gwych i gysylltu â dylunwyr blaenllaw ar draws y byd, rwyf wedi gweithio gyda llawer ohonynt o’r blaen ac eraill rwy’n edrych ymlaen at eu cyfarfod.”
Rydym yn falch o weld Jarred yn cynrychioli PDR ar lwyfan rhyngwladol ac yn edrych ymlaen yn arw at weld y dyluniadau anhygoel a fydd yn dod i'r amlwg o wobrau eleni.