The PDR logo
Maw 19. 2019

Uwchgynhadledd Dylunio Istanbul 2019

Mae'r label Dinas Ddylunio yn rhan o fenter 'Rhwydwaith Dinasoedd Creadigol' UNESCO sy'n meithrin cydweithrediad rhwng dinasoedd sydd wedi nodi bod creadigrwydd yn elfen ganolog o'u strategaethau datblygu ac yn elfen allweddol o wella ansawdd bywyd mewn amgylcheddau trefol. O'r 180 o ddinasoedd sydd wedi ymuno â'r rhwydwaith ers 2004 i rannu gwybodaeth a chefnogi eu gweithredoedd mewn amryw o feysydd creadigrwydd, mae 31 yn canolbwyntio ar ddylunio.

Mae Istanbul yn ychwanegiad cymharol ddiweddar i rwydwaith Dinasoedd Dylunio, gan ymuno yn 2017; er hynny, mae eisoes wedi dangos ei hymroddiad a'i dylanwad trwy drefnu Uwchgynhadledd Dylunio Istanbul ar 1-2 Mawrth 2019. Deuddydd llawn trafodaethau ar sut mae dylunio'n llywio adfywio trefol drwy trwy arloesedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ond polisi dylunio oedd prif ganolbwynt y gynhadledd.

Yn y seremoni agoriadol, cyhoeddodd Binali Yildirim, maer y mega-ddinas hon (15 miliwn o ddinasyddion) ei huchelgeisiau mawr ar gyfer dylunio drwy greu Canolfan Ddylunio Haydarpaşa newydd sbon a fydd yn cefnogi deg mil o fentrau dylunio ac yn hyrwyddo label 'Dyluniwyd yn Istanbul'. Pwysleisiodd fod dylunio'n hanfodol ar gyfer creu cynhyrchion a gwasanaethau cystadleuol sy'n ychwanegu gwerth sylweddol ac yn cyfrannu'n aruthrol at economi'r wlad i gyd. Ar ôl cydnabod gwerth dylunio, daeth cynyddu gallu dylunio yn flaenoriaeth i sawl gwlad, gan gynnwys Twrci.
 
Cefais y pleser o gyflwyno ein hymchwil ar bolisïau dylunio a rhannu'r cynnydd yn rhanbarthau Design4Innovation yn ystod trafodaethau dau banel yn canolbwyntio ar 'pam' a 'sut' polisïau dylunio. Ynghyd â phanelwyr eraill o Awstria, y Ffindir, Mecsico, Slofenia a'r DU, amlinellwyd y rhesymeg, y dulliau a'r gwersi a ddysgwyd ar sut i ddefnyddio dylunio'n fwy strategol er mwyn datblygu dinas, rhanbarth a gwlad.

ARGYMHELLION ALLWEDDOL

1. Cynnwys yr ecosystem ddylunio yn ei chyfanrwydd

2. Gwneud nid dim ond dweud – defnyddio cyd-ddylunio.

3. Cysoni â'r darlun ehangach.

4. Dysgu o arferion gorau ond eu gwneud yn berthnasol i'ch cyd-destun.

5. Hyrwyddo eich polisi, gwerth dylunio, a'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni

6. Monitro, gwerthuso a gwella.

Cefais gyfle hefyd i gyfrannu at y gweithdy polisi dylunio gyda rhanddeiliaid lleol, lle buom yn trafod y meysydd ffocws posibl ar gyfer polisi dylunio Istanbul. Roedd yn brawf gwirioneddol o agwedd datrys problemau dylunwyr, gan fod y drafodaeth yn canolbwyntio ar brif heriau byw yn Istanbul, megis gallu'r ddinas i wrthsefyll peryglon naturiol a dynol; tagfeydd; adfywio trefol ac elwa ar amrywiaeth ddiwylliannol; gan adael problemau’r sector dylunio, addysg a chymorth ar gyfer trafodaethau pellach. Ymddengys bod defnyddio dylunio fel galluogwr llorweddol sy'n helpu i ddatrys heriau cymhleth gwahanol yn duedd gynyddol ym maes polisi dylunio, ar ôl llu o strategaethau sy'n canolbwyntio yn eu cenhedlaeth gyntaf ar frandio a chymorth busnes, ac yna ar adnewyddu'r sector cyhoeddus.

Mae llawer o ddiddordeb yn y ffordd y gall dylunio gyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd yn Istanbul a ledled Twrci. Rydym yn awyddus i rannu ein harbenigedd a chyfrannu ymhellach at y broses o ddatblygu polisi dylunio, cefnogi'r iteriadau nesaf o syniadau polisi, creu consensws eang, helpu i weithredu, i fonitro, a gwerthuso'r camau dylunio hyn lle bo modd.

Fe ddysgon ni heddiw fod angen polisi.

UN O GYFRANWYR Y GWEITHDY