The PDR logo
Awst 17. 2021

Mr Evans, Cymerwch Gadair – Cyflwyno Athro Diweddaraf PDR

Mae Jarred Evans, Cyfarwyddwr yn PDR, bellach yn Athro mewn Arloesi Dylunio Cymhwysol. Wrth i’r newyddion dorri am ei deitl newydd, mae Jarred yn rhannu ei farn...

Dywedodd hen hyfforddwr rygbi wrthyf unwaith: ‘Os wyt ti eisiau gwella, gwna’n siŵr dy fod di’n chwarae gyda phobl sy’n well na thi.”

Er mai ychydig yn fyrhoedlog oedd fy ngyrfa rygbi, y ddysgeidiaeth hon fu un o’r mantrâu a ddilynais trwy gydol fy ngyrfa. Yn chwilio am y cwmnïau gorau oll, y prosiectau mwyaf heriol a’r cydweithwyr mwyaf talentog i weithio â nhw ble bynnag a phryd bynnag y gallaf.

Efallai mai hwn oedd yn sail i’m llwyddiant diweddar o gael fy nyfarnu â Chadair mewn Arloesi Dylunio Cymhwysol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwy’n awr yn cael fy hun mewn cwmni uchel eu parch, sy’n ddychrynllyd ac andros o gyffrous fel ei gilydd.

Mae fy swydd o ddydd i ddydd yn ddinewid, ac erys fy ffocws ar reoli a gyrru PDR i’r lefel nesaf. I weithio gyda’r gorau oll, mynd i’r afael â phroblemau heriol a chynhyrchu gwaith sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i’r rheiny rydym yn ymwneud â nhw. Er nad oes unrhyw newid yn y genhadaeth hon yn arwynebol, ceir cyfle enfawr i ddysgu, datblygu, tyfu a chydweithredu â chydweithwyr Athrawol o bob rhan o’r byd sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meysydd.

Ystyriaf y teitl newydd nid yn unig yn gydnabyddiaeth o gyflawniad ac yn anrhydedd fawr, ond hefyd yn gyfle grymus i ddysgu a datblygu fy hun a PDR, ill dau, ymhellach.

Jarred Evans | CYFARWYDDWR | PDR

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf yn arbennig, mae PDR wedi tyfu’n sylweddol. Rydym wedi cyflawni arwyddocâd a chyrhaeddiad rhyngwladol sylweddol, rydym wedi sicrhau llif cyson o wobrwyon ymchwil mawreddog, wedi ennill mwy na 50 prif wobr dylunio rhyngwladol a chyrraedd rhif 1 yn y DU a safle yn y 25 uchaf yn fyd-eang yn yr International Forum Design Rankings.

Mae’n gynnydd ardderchog yr ydym yn haeddiannol falch ohono, ond rwy’n cael fy hun mor awyddus a selog ag y bûm erioed (efallai hyd yn oed yn fwy...) dros y grym a’r effaith y gall arloesi dylunio gwirioneddol wych ei gael.

Ystyriaf y teitl newydd nid yn unig yn gydnabyddiaeth o gyflawniad ac yn anrhydedd fawr, ond hefyd yn gyfle grymus i ddysgu a datblygu fy hun a PDR, ill dau, ymhellach.

Mae’r broses i gael y dyfarniad hwn yn hynod anodd ac mae’n cynnwys sawl mis o baratoi cyn adolygiad manwl o’m gwaith, ei ansawdd, ei effaith a’r edmygedd ohono gan academyddion arweiniol ac arweinwyr y diwydiant ledled y byd. Os ystyrir ei fod o safon ddigonol, caiff ei adolygu a’i ddadansoddi ymhellach gan banel dyfarnu yn y Brifysgol ei hun.

Rwy’n canolbwyntio nid yn unig ar gynhyrchu gwybodaeth a mewnwelediadau newydd, ond, yn hanfodol, ar gymhwyso’r wybodaeth honno i wneud gwahaniaeth cadarnhaol hefyd.

Jarred Evans | CYFARWYDDWR | PDR

Dyfernir y teitl Athro (sy’n cyfateb i Athro Llawn yn yr Unol Daleithiau) i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol a phwysig i’w maes. Ystyriwyd fod yr arloesi cymhwysol yr ymgymerais ag ef, gydag ymchwil cadarn yn sail iddo ond a oedd yn canolbwyntio’n fawr ar effaith ac ymgysylltu yn y gymuned ehangach, o bwys i gymdeithas, diwydiant ac i’r Brifysgol.

Mae’n rhaid imi ddweud fod gen i deimladau cymysg am y dyfarniad ei hun.

Anaml iawn y caf fy nghyhuddo o ffug ostyngeiddrwydd, ond rydw i wedi cwestiynu a ydw i wir yn perthyn yn y garfan eithaf dethol hon o bobl.

Mae Athrawon eraill rwy’n eu hadnabod yn y gofod hwn yn bobl yr wyf yn eu parchu’n fawr. Maen nhw, heb amheuaeth, yn arbenigwyr yn eu meysydd. Maen nhw’n sicr yn fwy academaidd, mae ganddynt gefndir ymchwil sydd gryn dipyn yn fwy cadarn, a heb os, maen nhw wedi cyhoeddi mwy.

Yn sicr, nid ydw i’n academydd yn yr ystyr draddodiadol. Nid oes unrhyw fyfyrwyr na chyfrifoldebau addysgu ac rydw i, ac fe fyddaf bob amser, yn canolbwyntio nid yn unig ar gynhyrchu gwybodaeth a mewnwelediadau newydd, ond, yn hanfodol, ar gymhwyso’r wybodaeth honno i wneud gwahaniaeth cadarnhaol hefyd.

Amlyga’r ffaith ei bod wedi cefnogi a chydnabod y gwaith hwn ymrwymiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ymchwil gymhwysol ac effaith o safon fyd-eang; persbectif yr ydw i wir yn ddiolchgar amdano.

Felly beth nesaf? Mae’r teitl Athro’n arwyddbost o gydnabyddiaeth ar daith hirach a byth yn gyrchfan o’i hun. Byddaf yn parhau’n ddinewid yn fy rôl yn PDR. Mae ein gwaith y gorau a fu erioed ac mae gennym y tîm gorau a gawsom erioed... ond mae cymaint mwy i’w wneud, cymaint mwy y gallwn wneud.

Mae’r teitl Athro nid yn unig yn fy helpu i wella eto, ond hefyd yn rhoi cyfle imi fyfyrio ar y cyfrifoldebau a ddaw yn ei sgil ac i ddysgu o’m cydweithwyr mwy academaidd. Mae’n dwyn cyfrifoldeb nid yn unig i barhau i gynnal a gyrru’r safonau uchaf posibl, ond hefyd i roi’n ôl i’r pwnc arloesi dylunio cymhwysol yr wyf yn dwli arno a chenedlaethau’r dyfodol o ymarferwyr.

Mae pob un ohonom yn PDR yn falch iawn o gyflawniadau Jarred a hoffem ei longyfarch ar dderbyn y teitl Athro haeddiannol iawn hwn.

YR ATHRO ANDREW WALTERS | CYFARWYDDWR YMCHWIL | PDR

“Daw teitl Athro Jarred mewn cydnabyddiaeth o hanes hir yn arwain cenadaethau arloesi PDR a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

“Yn ei arweinyddiaeth o PDR, mae Jarred wedi ceisio ffyrdd newydd o ddatblygu timau sy’n perfformio’n uchel iawn ar draws ein gweithrediadau ymgynghori masnachol ac ymchwil academaidd, gan sicrhau bod manwl gywirdeb ymchwil yn llywio ymarfer dylunio a bod ymarfer dylunio’n llywio agendâu ymchwil. Mae effeithiolrwydd y berthynas hon wedi arwain at PDR yn cael ei gydnabod fel un o brif gwmnïau ymgynghori’r byd ac yn awdurdod arweiniol mewn ymchwil dylunio, gan ddangos arweinyddiaeth Jarred o ran cenadaethau academaidd cyfoes ynghylch arloesi ac effaith y tu hwnt i’r byd academaidd.

“Mae pob un ohonom yn PDR yn falch iawn o gyflawniadau Jarred a hoffem ei longyfarch ar dderbyn y teitl Athro haeddiannol iawn hwn.”

- Yr Athro Andrew Walters, Cyfarwyddwr Ymchwil yn PDR