The PDR logo
Ion 17. 2022

Pam fod UCD yn bwysig er mwyn datblygu effaith gymdeithasol?

Mae Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (UCD) yn ymwneud â ffocysu ar anghenion y defnyddwyr terfynol, ond, fel llawer o egwyddorion dylunio, daw hefyd â llu o fuddion anuniongyrchol. Un o'r rhain yw'r ffordd y gall dylunio hefyd ddatblygu effaith gymdeithasol sy’n wirioneddol fuddiol.

I ddarganfod mwy am pam - a sut - y dylid defnyddio UCD i ddatblygu effaith gymdeithasol, fe wnaethom gyfweld â'r Athro Andy Walters, ein Cyfarwyddwr Ymchwil ac arbenigwr ar y ffyrdd y gall UCD helpu i greu newid cadarnhaol.

“Yn gyntaf, yr effaith y mae busnes neu sefydliad yn ei chael ar y byd rydyn ni'n byw ynddo yw effaith gymdeithasol,” meddai Andy. “Mae hynny’n aml ar ben y busnes craidd, yn hytrach nag unig ddiben y busnes.”

“Wrth feddwl am effaith gymdeithasol, rydyn ni'n dueddol o neidio'n syth at gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, ac mae’r cyhoedd yn gallu ystyried hynny ag ychydig bach o amheuaeth. Gwelwn gwmnïau mawr yn ymochri ag elusennau neu fentrau, ac mae pobl weithiau’n meddwl am hynny fel bod cwmnïau’n ceisio ennill clodydd.”

Efallai bod gan lawer ohonom hidlydd sinigiaeth mewnol. “Fel rhan o brosiect a wnaethom gyda Phrifysgol Brunel a ariannwyd gan yr AHRC, fe edrychom ar effaith gymdeithasol dylunio - a gwelsom fod defnyddwyr yn ymateb yn llawer mwy cadarnhaol i effaith gymdeithasol sydd wedi'i dylunio o’r dechrau, yn hytrach na gweithgareddau 'cyfrifoldeb cymdeithasol' atodol a ychwanegwyd yn ddiweddarach.

“Dangosodd hyn fod canfyddiad ymysg cwsmeriaid o hyd nad diben y gweithgareddau hyn yw gwella cymdeithas, ond yn hytrach er mwyn i’r cwmni 'edrych yn dda'.”

Ond, mynna Andy, nid yw hynny o reidrwydd yn deg. “Mae llawer o gwmnïau wir yn poeni am yr effaith y maen nhw'n ei chael, ac yn dewis ffyrdd o gael effaith gymdeithasol sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd.

“Yn y pen draw serch hynny, gall effaith gymdeithasol fod yn llawer mwy na chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn unig. Mae’n ymwneud â’r ffordd y mae busnes yn cefnogi cymuned leol, y dewisiadau a wnânt wrth ddewis cyflenwyr, y deunyddiau a ddefnyddir ganddynt a'r modelau busnes y maen nhw'n eu gweithredu - felly mae'n ymwneud ag unrhyw benderfyniad a wneir gan sefydliad i geisio gwella'r byd o'n cwmpas wrth iddynt redeg busnes cynaliadwy.”

Gall effaith gymdeithasol fod yn llawer mwy na chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn unig. Mae’n ymwneud â’r ffordd y mae busnes yn cefnogi cymuned leol, y dewisiadau a wnânt wrth ddewis cyflenwyr, y deunyddiau a ddefnyddir ganddynt a'r modelau busnes y maen nhw'n eu gweithredu.

Andrew Walters | CYFARWYDDWR YMCHWIL | PDR

Efallai bod gan gwmnïau mawr yr adnoddau i dreulio llawer o amser yn meddwl am eu heffaith gymdeithasol; ond sut gallai effaith gymdeithasol fod yn berthnasol i sefydliadau llai?

“Wrth edrych ar gwmnïau llai, maen nhw’n wastad yn fwy cyfyngedig o ran adnoddau ac felly mae ganddyn nhw lai o amser i ystyried eu heffaith gymdeithasol. Rhedeg, datblygu a chynnal eich busnes yw'r brif flaenoriaeth, felly mae ystyried effaith gymdeithasol yn disgyn i waelod y rhestr o flaenoriaethau.

“Ond yn gynyddol, ceir mwy a mwy o achosion lle gofynnir i gwmnïau egluro eu heffaith gymdeithasol. Gallai hynny fod oherwydd eu bod nhw’n ymgeisio am gontract sector cyhoeddus, neu'n ceisio cyllid gan Innovate UK neu Lywodraeth Cymru; felly os nad ydyn nhw wedi treulio amser yn meddwl am eu heffaith gymdeithasol, mae'r prosesau hyn yn mynd yn anodd.”

Mae'n hanfodol cymryd golwg ar eich cystadleuwyr a'ch cyfoedion, a fydd ‘ar y blaen’ o ran eu heffaith gymdeithasol eu hunain a'r ffyrdd y maen nhw'n gwella'r byd o'u cwmpas, meddai Andy. “Os nad yw cwmnïau'n deall beth yw eu heffaith gymdeithasol yn iawn, a’r hyn a allai fod, mae'n eu rhoi o dan anfantais o ran ennill cefnogaeth neu rai contractau.”

Felly dyna pam mae effaith gymdeithasol yn hanfodol, ond sut y gall dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr helpu ei ddatblygu?

“Mae dylunio’n ffordd effeithlon o ddechrau edrych ar eich effaith gymdeithasol oherwydd gallwch ei gynnwys yn eich proses fusnes, ac edrych arno ar ffurf prosiect-wrth-brosiect. Mae UCD yn ymwneud â deall anghenion a gwerthoedd y bobl rydych yn dylunio ar eu cyfer, felly mae edrych arno drwy'r lens hon yn caniatáu i'r cwmni sicrhau bod yr effeithiau cymdeithasol y mae eu cwsmeriaid eu heisiau yn cyd-fynd â’r cynhyrchion a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cyflenwi. Yn sydyn, mae mynd i'r afael â'r effaith gymdeithasol yn dod yn rhan o'r buddsoddiad mewn dylunio, ac mae allbynnau'r cwmni'n dod yn fwy gwerthfawr i'r defnyddiwr ar unwaith.”

Trwy hyn, mae effaith gymdeithasol - fel dyfais - yn cael ei phecynnu'n awtomatig o fewn cynnig y cwmni, a daw’n llawer mwy amlwg i gynulleidfaoedd; boed yn ddarpar gwsmeriaid neu swyddogion y llywodraeth sy'n penderfynu ar geisiadau a thendrau.

Mae dylunio’n ffordd effeithlon o ddechrau edrych ar eich effaith gymdeithasol oherwydd gallwch ei gynnwys yn eich proses fusnes, ac edrych arno ar ffurf prosiect-wrth-brosiect.

Andrew Walters | CYFARWYDDWR YMCHWIL | PDR

Yn PDR, rydym wedi gweithio gyda sefydliadau’n helaeth i ymgorffori UCD yng ngwead eu cwmni - ac mae gan lawer ohono effaith gymdeithasol wedi'i hymgorffori ynddo eisoes. “Roedd ein gwaith o ddylunio polisïau a gwasanaethau'n ymwneud â gordewdra gyda Chyngor Sir Essex yn enghraifft dda o hyn. Y tu hwnt i waith ymchwil, gallwch ddod o hyd iddo yn ein gwaith sector preifat hefyd; roedd ein prosiect gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality yn canolbwyntio ar annog plant i gynilo a dilyn rheolaeth ariannol dda.

“Hyd at y cynhyrchion ffisegol a gynlluniwyd gennym hyd yn oed,” meddai Andy, “gallwch weld yr effaith gymdeithasol wedi’i dylunio’n rhan ohonynt. Ystyriwch Brace, er enghraifft. Deilliodd y darn hwn o offer meddygol yn rhannol o awydd R&D Surgical i leihau’r stigma ac embaras i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n dioddef o Pectus carinatum, a gwneud bywyd yn haws iddyn nhw.”

Yn y pen draw, gellir gwireddu angerdd cwmni i wella'r byd trwy ddefnyddio dylunio. “Mae dylunio’n rhoi ffordd i sefydliadau ddangos effaith gymdeithasol. Ydyn, efallai eu bod nhw’n fusnesau,” meddai Andy, “ond mae’n dal ganddyn nhw angerdd i wella'r byd, a dyna sy'n bwysig i’w feithrin a’i ddatblygu.”

Y CAMAU NESAF

Archwiliwch ragor am UCD yn ein fideo diweddar, Beth yw UCD? gyda Cat Taylor.

Dewch i ddarganfod prosiectau diweddaraf PDR, neu i drafod syniad newydd, cysylltwch â ni.