The PDR logo
Tach 05. 2021

Sut gall y diwydiannau creadigol fabwysiadu dylunio cynaliadwy?

Anaml y sonnir am y diwydiannau creadigol drwy lens 'cynaliadwyedd'. I’r sectorau hyn, nid cyd-fynd â'r pryderon cynyddol am yr amgylchedd, newid hinsawdd neu feddwl yn gynaliadwy fu eu prif flaenoriaethau bob amser - hynny yw, tan nawr.

Yn yr erthygl hon, siaradwn â Dr. Katie Beverley, Uwch Swyddog Ymchwil yn PDR, am sut y gall y diwydiannau creadigol fabwysiadu dylunio cynaliadwy a pham fod angen y newid hwn mor gyflym, ac mor hanfodol.

“Yn fyr, nid yw'r diwydiannau creadigol yn gwneud digon ynglŷn â chynaliadwyedd,” esbonia Katie. “Ar gyfartaledd, mae ffilmiau mawr Hollywood yn allyrru 2,840 tunnell o garbon deuocsid yn ystod cynhyrchu - sydd tua'r un faint ag y byddai 3,700 erw o goed yn eu hamsugno, y flwyddyn. Os ydych chi’n delio â'r mathau hynny o ffigurau’n gyson, mae'n anodd dod i unrhyw gasgliad arall; nid yw cynaliadwyedd yn flaenoriaeth.”

Ond a oes newid yn digwydd o gwbl? Mae Katie o’r farn ei fod. “Ceir pocedi o ragoriaeth ar draws y diwydiant. Mae cynyrchiadau ffilmiau mawr yn mabwysiadu cynhyrchu rhithiol ac yn cyfyngu ar eu cludiant, tra bod cwmnïau undyn yn lobïo dros fabwysiadu arferion ynni gwyrdd – felly, yn bendant, mae newid yn digwydd.

“A chefnogaeth gan sefydliadau fel albert, sef prif awdurdod y DU ar gynaliadwyedd mewn ffilm a theledu, a Julie's Bicycle, elusen sy'n cefnogi cerddoriaeth a'r celfyddydau i fod hyd yn oed yn fwy cynaliadwy, sy'n fy helpu i gael noson dda o gwsg ar ôl gwylio James Bond yn dinistrio Aston Martin arall!”

Ar gyfartaledd, mae ffilmiau mawr Hollywood yn allyrru 2,840 tunnell o garbon deuocsid yn ystod cynhyrchu - sydd tua'r un faint ag y byddai 3,700 erw o goed yn eu hamsugno, y flwyddyn.

Dr Katie Beverley | UWCH SWYDDOG YMCHWIL | PDR

Felly mae newid yn digwydd. Ond a yw cwmnïau cynhyrchu’n ymwybodol o'r manteision y byddent yn eu gweld drwy fabwysiadu dylunio cynaliadwy - ac os felly, beth yw'r manteision hynny? Mae achos economaidd dros wneud hynny, wrth feddwl am arbed costau o hediadau, cludiant a deunyddiau wrth gwrs; ond, gan fod costau mawr cyn cychwyn yn elfen ddisgwyliedig o ffilmio ‘cyllideb fawr’, nid yw arbed arian bob amser yn bryder pwysig.

“Yn lle hynny,” meddai Katie, “mae'n rhaid ichi ystyried y manteision eraill. Mae gan gynulleidfaoedd newydd lawer mwy o ddiddordeb mewn materion cynaliadwyedd; maen nhw eisiau gweld cynnwys sy'n berthnasol i'r hinsawdd, ac maen nhw’n llawer mwy awyddus i wybod a yw eich busnes yn ymddwyn yn gyfrifol. Felly mae creu eu straeon newyddion eu hunain am hyn o fudd i’r busnesau.

“Ac mae deall sut i fod yn gynaliadwy yn ymdrech greadigol ynddo'i hun mewn gwirionedd. Yn aml, rydym yn ei ystyried yn gyfyngiad, ond gall herio eich hun o ran eich arferion busnes a dod o hyd i rywbeth gwahanol i herio'r sefyllfa bresennol fod yn andros o werth chweil.”

Mae gan gynulleidfaoedd newydd lawer mwy o ddiddordeb mewn materion cynaliadwyedd; maen nhw eisiau gweld cynnwys sy'n berthnasol i'r hinsawdd, ac maen nhw’n llawer mwy awyddus i wybod a yw eich busnes yn ymddwyn yn gyfrifol.

Dr Katie Beverley | UWCH SWYDDOG YMCHWIL | PDR

Wrth drafod sut y gall y diwydiannau newid eu dulliau’n gorfforol i gofleidio cynaliadwyedd, pwysleisia Katie ei fod yn ymwneud â'i roi ar waith o’r cychwyn cyntaf. “Drwy gynnwys cynaliadwyedd fel maen prawf o’r dechrau un yn y broses gynllunio, dyna o ble y daw'r cyfleoedd creadigol.

“Yn y Screen New Deal sydd newydd ei gyhoeddi gan albert, y BFI ac Arup, maen nhw'n edrych ar y meysydd allweddol y mae gwir angen i'r diwydiant fynd i'r afael â nhw; Deunyddiau Cynhyrchu, Defnydd Ynni a Dŵr, Adeiladau a Chyfleusterau Stiwdio, a Safleoedd a Lleoliadau. Boed yn ailddefnyddio neu'n rhannu setiau gyda chynyrchiadau eraill, neu’n ddisodli'r generaduron diesel nodweddiadol ar y safle gyda chynhyrchu ynni solar neu wynt - dyma'r mathau o bethau y gellid eu hystyried gan gwmnïau cynhyrchu yn weddol rwydd.”

“Yn ogystal â'r meysydd allweddol hynny, byddwn yn ychwanegu un arall, a chreu cynnwys cynaliadwy yw hynny. Mae miliynau o bobl yn gwylio allbynnau creadigol ar wahanol ffurfiau - gallai hwn fod yn gyfle i 'annog’ y bobl hyn i ffyrdd newydd o feddwl. Dyna pam y datblygodd albert fenter o'r enw Planet Placement yn ddiweddar, sy’n defnyddio'r un fframweithiau a ddefnyddir gan osod cynnyrch ond yn hyrwyddo negeseuon ynghylch cynaliadwyedd yn hytrach na raseli neu ddiodydd swigod.

“A dyna hefyd pam mae'r sebon deledu Coronation Street wedi bod yn disodli blychau sbwng gyda deunydd pecynnu amldro yn eu golygfeydd caffi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dyna'r math o newid ymddygiadol y gellir ei chwarae ar sgriniau teledu mewn miliynau o gartrefi ledled y wlad.”

The TV soap Coronation Street has been replacing foam boxes with reusable packaging into their cafe scenes over the past few years. That’s the type of behavioural change that can be played out on TV screens in millions of homes across the country.

Dr Katie Beverley | UWCH SWYDDOG YMCHWIL | PDR

Mae'n bwysig edrych ar sut y gellir gwneud newidiadau ar lefel leol neu ranbarthol - a sut y gall y rhain dyfu a datblygu'n gyflym i fod yn arloesiadau sy'n arwain y diwydiant. Yn PDR, rydym yn gweithio gyda Clwstwr ar brosiectau i gyflwyno cynaliadwyedd ac arloesi i gynhyrchu cyfryngau; er enghraifft, drwy Gronfa Her Cymru Werdd, lle rydym yn rhoi'r offer a'r dulliau i gyfranogwyr droi cynaliadwyedd o fod yn gyfyngiad i rywbeth sy’n datgloi'r potensial arloesi hwnnw.

“Prosiect gwych a ddaeth drwy Clwstwr yw prosiect 'Glasu Animeiddio' Lauren Orme, lle aeth ati i ddarganfod pa mor wyrdd yw'r diwydiant animeiddio ac a ellir cynnal gwyliau’r diwydiant mewn ffordd sy'n ofalus o’r hinsawdd.

“Ac ail enghraifft fyddai’r Smart Power Plan,” â Katie yn ei blaen. “Prosiect gan ZAP Concepts yw hwn sy'n edrych ar sut y gellir addasu dulliau goleuo ac ynni presennol i ddiwallu anghenion gosodiadau creadigol cyfoes ar gyfer gwyliau, safleoedd ffilm, gosodweithiau amgueddfa a mwy.

“Trwy'r mathau hyn o brosiectau, mae Clwstwr yn bendant yn dod yn llefarydd pwysig iawn dros ddatblygu'r arferion cynaliadwy hyn yn y diwydiant. Gan ddefnyddio consortia fel Clwstwr, albert, y BFI a sefydliadau dylanwadol eraill sy'n galw am newid, gallwn roi dylunio cynaliadwy wrth wraidd cynhyrchu creadigol a chael effaith hirdymor er gwell.”