The PDR logo
Rhag 05. 2019

Enillydd Gwobr Ddylunio’r Almaen 2020

Mae PDR wedi cipio gwobr ddylunio ryngwladol arall o bwys yn y categori ‘Dylunio Cynnyrch Rhagorol, Adsefydlu Meddygol a Gofal Iechyd’ yng Ngwobrau Dylunio’r Almaen.

Mae Gwobr Ddylunio’r Almaen, a sefydlwyd ym 1953, yn un o nifer fach iawn o wobrau y mae PDR yn cystadlu amdanynt, gan ei bod yn cael ei beirniadu’n wirioneddol ddi-enw ddwywaith a’i bod o statws a safon wirioneddol ryngwladol. Mae’r beirniaid, sy’n cael eu dewis bob blwyddyn i gynrychioli lleisiau arweiniol y diwydiant dylunio, ond yn rhoi’r wobr i’r cynigion hynny sy’n wir yn dangos cyfraniadau arloesol i’r dirwedd ddylunio ryngwladol.

Bydd PDR yn casglu ei wobr ym mis Chwefror 2020 yn seremoni’r Gwobrau Dylunio’r Almaen yn Frankfurt pan fydd yn mynychu arddangosfa nwyddau’r cartref Ambiente.