Dewch i gwrdd â ni yn MEDICA 2025 – Neuadd 16 / Stondin J03
Rydyn ni’n mynd i Düsseldorf rhwng 17-20 Tachwedd ar gyfer MEDICA 2025, a bydden ni wrth ein bodd yn cwrdd â chi yno!
Bydd ein Cyfarwyddwr Jarred Evans a Julie Stephens, Rheolwr Masnachol, yn cynrychioli PDR yn Neuadd 16, Stondin J03, ac yn barod i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â dylunio dyfeisiau meddygol. A ninnau’n gyntaf yn Ewrop a'r DU am ddylunio dyfeisiau meddygol gan iF Design, rydym yn gweithio gyda sefydliadau ledled y byd i greu datrysiadau gofal iechyd arloesol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr - o gysyniadau cynnar i gynhyrchion sydd wedi'u datblygu'n llawn ac sy'n cydymffurfio â’r holl reoliadau.
“Mae MEDICA yn ddigwyddiad allweddol i ni — mae’n gyfle i ailgysylltu â phartneriaid, i archwilio technolegau newydd, ac i rannu sut y gall dylunio sbarduno arloesedd gofal iechyd ystyrlon. Rydym bob amser yn chwilfrydig, ac rwyf wrth fy modd yn siarad â chwmnïau ac unigolion am eu diwydiant, eu technoleg a’r heriau sy’n eu gwynebu.”
Jarred Evans, Cyfarwyddwr, PDR
Os hoffech ddysgu mwy am sut rydym yn helpu i dod ag arloesi meddygol yn fyw, cymerwch eiliad i archwilio ein gwasanaethau dylunio dyfeisiau meddygol a phori rhai o'n prosiectau diweddar.
P'un a ydych chi'n dod i ddarganfod syniadau newydd, dod o hyd i bartner dylunio, neu ddim ond eisiau dweud helo - byddem wrth ein bodd yn cysylltu a chi. Galwch heibio ein stondin neu cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod.