The PDR logo
Maw 31. 2023

Dylunio ar gyfer Democratiaeth: Cam tuag at newid systemig

Beth mae dylunio ar gyfer democratiaeth yn ei olygu, sut mae dylunio yn ffitio i mewn i wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes, ac a ellir ei weithredu yn ein systemau i wella ansawdd bywyd i bawb? Dyma rai o’r cwestiynau llosg a ysgogodd Rheolwr Prosiect ac Ymchwilydd PDR, Piotr Swiatek, i ddilyn cymrodoriaeth Academïau Byd-eang, gyda’r nod o gynnal gwaith ymchwil i’r cysylltiad rhwng dylunio a democratiaeth.

Gwybodaeth am y gymrodoriaeth ac Academïau Byd-eang

Mae'r Academïau Byd-eang yn fenter a arweinir gan Brifysgol Met Caerdydd sy'n dod ag ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol at ei gilydd i gydweithio gyda'r bwriad o wella eu twf personol a'u helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang. Fel rhan o hynny, bob blwyddyn mae’r Academïau Byd-eang, ar y cyd â Santander, yn ariannu tri academydd i gynnal astudiaeth gwmpasu gyda’r bwriad o greu maes ymchwil newydd, cynnig cyllid ymchwil newydd neu wasanaeth masnachol newydd.

Diffinio Dylunio ar gyfer Democratiaeth

Fel arfer, mae Dylunio ar gyfer Democratiaeth yn cyfeirio at yr arfer o ddylunio cynnyrch, systemau a phrosesau sy’n hyrwyddo gwerthoedd democrataidd fel cynhwysiant, tryloywder ac atebolrwydd trwy ystyried anghenion a safbwyntiau holl aelodau cymdeithas. Mae Piotr yn esbonio mwy...“Gan fy mod wedi fy lleoli o fewn tîm polisi dylunio PDR, rydym yn canolbwyntio'n helaeth ar ddefnyddio dylunio yn y llywodraeth i wella gwasanaethau a pholisïau cyhoeddus. Mae'r maes academaidd hwn wedi esblygu'n gyflym dros y 25 mlynedd diwethaf, gan symud o wella allbwn economaidd yn unig i hyrwyddo lles a chynaliadwyedd hefyd. Ein nod yw mabwysiadu ymagwedd greadigol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr mewn perthynas â’r llywodraeth a sectorau cyhoeddus.“Ond roeddwn yn meddwl o hyd am beth fydd yn digwydd nesaf yn y maes hwn, a’r hyn a oedd yn amlwg i mi oedd set o ystadegau yn dangos anfodlonrwydd cyson o fewn y sector cyhoeddus a dirywiad o ran ymddiriedaeth yn y llywodraeth ar draws pob democratiaeth, yn enwedig yn y DU.”

Democratiaeth mewn argyfwng

Yn seiliedig ar erthygl YouGov o 2015, mae dros 50% o ddinasyddion y DU eisiau cyfrannu at benderfyniadau polisi mawr, ond dim ond 7% sydd o’r farn bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Mae sawl adroddiad arall ag ystadegau tebyg yn cefnogi’r datganiad hwn, gan gynnwys yr Arolwg o Fywyd Cymunedol 2017-18 gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a’r Archwiliad o Ymgysylltiad Gwleidyddol 16, sef adroddiad o 2019 gan Gymdeithas Hansard.

Mae Piotr yn nodi: “Yr adroddiad diweddaraf yw Baromedr Ymddiriedolaeth Edelman 2022, a arolygodd 36,000 o unigolion ar draws 28 o wledydd ynghylch y cylch diffyg ymddiriedaeth mewn llywodraethau. Canfu’r astudiaeth mai dim ond 50% o bobl sy’n ymddiried yn y llywodraeth, a dim ond 42% sy’n credu y gall y llywodraeth fynd i’r afael yn effeithiol â phryderon cymdeithasol sylweddol. Yn ogystal, mae 64% o ymatebwyr yn credu bod cymdeithas wedi cyrraedd pwynt lle mae'n amhosibl cael trafodaethau adeiladol a moesgar ar anghydfodau. Pan mai diffyg ymddiriedaeth yw'r safle rhagosodedig, nid oes gennym y gallu i ddadlau na chydweithio.

“Ar ôl cynnal gwaith ymchwil pellach i’r ystadegau hyn, roeddwn yn meddwl y gallwn roi popeth mewn i bolisïau er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, yr her fawr yma yw sut yr ydym yn adfer ymddiriedaeth mewn prosesau a sefydliadau democrataidd, a sut y gallwn gynllunio gwaith ymchwil i gyd-fynd â hyn. Yn y pen draw, y posibilrwydd o adfer ymddiriedaeth mewn llywodraethau drwy eu galluogi i greu cymdeithasau tecach a mwy cyfiawn drwy feddwl ac egwyddorion dylunio oedd man cychwyn fy nghymrodoriaeth.”

Methodoleg

Dechreuodd y gymrodoriaeth yng ngwanwyn 2022 a daeth i ben mewn digwyddiad crynhoi ym mis Ionawr 2023. Ymdriniwyd â'r astudiaeth trwy gyfuniad o waith ymchwil helaeth, cyfarfodydd a gweithdai gydag arbenigwyr a chyd-ymchwilwyr, adeiladu rhwydweithiau a nodi cyfleoedd ariannu.

“Dechreuais gydag ymarfer mapio gwybodaeth, gan nodi unrhyw waith ymchwil presennol a phrif sefydliadau academaidd sy’n arbenigo yn y pwnc; a galluogodd hynny i mi wneud cysylltiadau a chreu darlun cyflawn o sut mae dylunio yn ffitio mewn i ddemocratiaeth, yn ogystal â nodi unrhyw fylchau a allai hwyluso llwybrau ymchwil newydd neu gyllid posibl.

“Cafodd ffynonellau amrywiol, megis cyhoeddiadau, adroddiadau, cymunedau ar-lein, podlediadau, a gweminarau o astudiaethau dylunio a pholisi, eu dadansoddi yn ystod y cam cychwynnol. Archwiliwyd y dadleuon cyfredol ym maes cymdeithaseg, athroniaeth, yr economi a gwleidyddiaeth hefyd er mwyn ehangu’r persbectif.”

Parhaodd Piotr: “Yn ystod ail hanner fy nghymrodoriaeth, bûm yn ymgysylltu’n helaeth ag academyddion, llunwyr polisi, arbenigwyr, a rhanddeiliaid eraill i gael mewnwelediad dyfnach i’r bylchau gwybodaeth, gofynion y diwydiant, a chyfleoedd posibl. Cymerais ran mewn cyfanswm o 14 o gyfarfodydd a oedd yn berthnasol i’m gwaith ymchwil, gan gynnwys cyflwyno gweithdai a sgyrsiau rhyngwladol, cymryd rhan mewn trafodaethau bord gron a rhwydweithio.”

Canlyniadau a’r hyn fydd yn digwydd nesaf

Arweiniodd ymchwiliad Piotr i ddylunio ar gyfer democratiaeth a mentrau ymgysylltu sy’n gysylltiedig â’r gymrodoriaeth at gaffael contractau ymgynghori lluosog a darganfuwyd sawl cyfle ar gyfer mentrau masnachol a chyllidol.

Pan ofynnwyd “beth nesaf” iddo, dywedodd Piotr: “Mae'n bwysig nodi mai astudiaeth archwiliadol oedd y gymrodoriaeth hon, ni ellir newid systemau dros nos gydag un glasbrint. Pwrpas yr astudiaeth hon yw gweithredu fel carreg gamu ar gyfer cynllun gweithredu a allai arwain at newid systemig. Mae’n dasg fawr ond rwy’n bwriadu parhau â’r astudiaeth hon, palu’n ddyfnach a gwneud cais am gyllid.”

Camau Nesaf

Dysgwch fwy am waith ymchwil PDR neu, os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod, cysylltwch â ni.