The PDR logo
Hyd 16. 2020

Popeth rydych chi am ei wybod am... Wobrau Dylunio

BETH YW DIBEN GWOBRAU DYLUNIO? PA RAI I GYSTADLU AMDANYNT? BETH SY'N DIGWYDD OS BYDDWCH CHI'N ENNILL? JARRED EVANS, EIN RHEOLWR GYFARWYDDWR, SY’N ESBONIO’R CYFAN...

Yn dilyn ein llwyddiant yn y gwobrau diwethaf (Snoozeal® yn Ennill yng Ngwobrau IDEA 2020), yn y fideo diweddaraf hwn, mae Jarred yn rhoi hanes ein gwobrau dylunio byd-eang dros y 14 mlynedd diwethaf.

Ar frys? Dyma’r uchafbwyntiau...

NID YW POB GWOBR DDYLUNIO YN GYFARTAL

Dim ond am 4 gwobr fyd-eang y byddwn yn cystadlu amdanynt, am fod gennym rai meini prawf llym sy'n bwysig i ni. Yn gyntaf, mae'n rhaid iddynt gael eu beirniadu’n ddi-enw ddwywaith, sy'n sicrhau mai cynnwys y prosiect sy'n ennill.

Hefyd, rhaid iddynt fod yn fyd-eang, gan gynrychioli'r gorau o dalent dylunio arloesol.

GWOBRAU DYLUNIO IF

Ers 1953, mae Gwobrau Dylunio iF wedi cael eu cydnabod fel symbol o ragoriaeth ym maes dylunio ledled y byd, ac maent yn derbyn dros 6,000 o gynigion o 70 o wledydd bob blwyddyn.

Gyda’r gwobrau'n amrywio o 'Ddylunio' cyffredinol i 'Ddylunio Aur' a 'Thalent Dylunio', mae'r Gymdeithas iF yn sefydliad gwirioneddol hollgynhwysol sy'n dathlu talent fyd-eang.

Mae ein llwyddiannau iF diweddaraf yn cynnwys:

Brace [Gwobr Aur]

Snoozeal®
Flo
Dose
Layr

GWOBR DDYLUNIO RED DOT

Mae Gwobr Ddylunio Red Dot yn sefydliad dylunio arall sy’n hanu o’r Almaen, a sefydlwyd ym 1954.

Mae'n derbyn dros 18,000 o geisiadau bob blwyddyn o dros 70 o wledydd, ac mae'n un o gystadlaethau dylunio mwyaf ac enwocaf y byd.

Mae ein llwyddiannau diweddaraf yng ngwobrau Red Dot yn cynnwys:

Cooltone
SonicAid Team3
René

GWOBRAU GOOD DESIGN

Sefydlwyd y Gwobrau ym 1950 yn sgil gwaith ar y cyd rhwng dau sefydliad yn Chicago ac Efrog Newydd, ac ers hynny mae’r rhaglen arddangos GOOD DESIGN® wedi dyfarnu tua 40,000 o wobrau am ddylunio ac arloesi, cynaliadwyedd, creadigrwydd, brandio, dylunio ecolegol gyfrifol, ffactorau dynol, deunyddiau, technoleg, celfyddydau graffig, pecynnu, a dylunio cyffredinol.

Mae ein llwyddiannau diweddaraf yng ngwobrau Good Design yn cynnwys:

DMX Doppler Digidol
SonicAid Team3
Adtec Steriplas
Acticheck Sicrhau

GWOBRAU DYLUNIO IDEA / IDSA

Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Ryngwladol mewn Dylunio (IDEA) gan IDSA yn dathlu eu pen-blwydd yn 41 oed yn 2021, ar ôl dathlu cyfraniad eithriadol ym maes dylunio ers 1980.

Yn wreiddiol, nod y gwobrau oedd cydnabod dylunio diwydiannol, ond ers hynny maent wedi datblygu i gydnabod dylunio ym meysydd strategaeth ddylunio, brandio, rhyngweithio digidol a llawer mwy.

Mae ein llwyddiannau diweddaraf yng ngwobrau IDEA yn cynnwys:

Snoozeal®
Flo [cyrraedd y rownd derfynol]

SAFLE #2 I PDR YMHLITH 'ASIANTAETHAU DYLUNIO' Y DU

Mae’r iF World Design Guide yn rhestru asiantaethau a chwmnïau dylunio ledled y byd - felly mae’n rhestr reit gystadleuol, a dweud y lleiaf!

Pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, roedd PDR yn safle #2 yn y DU, cam yn unig y tu ôl i Kenwood - cwmni gwych sydd hefyd yn gleient i ni - ac uwchben enwau eraill fel Samsung, Herman Miller a mwy.

Rydym hefyd ymhlith y 50 gorau ar gyfer dylunio iechyd a meddygol yn y byd, ac ymhlith y 50 stwidio dylunio gorau yn y byd.

RYDYM WEDI BOD YN ENNILL GWOBRAU ERS 2006

Jarred blannodd yr hedyn cyntaf pan gerddodd i mewn i'r stiwdio yn dal llyfryn o enillwyr Red Dot. Awgrymodd ein bod ni’n ddigon da i 'fynd amdani' – ac ymhen 12 mis, cawsom ein Red Dot cyntaf! Ers hynny, rydym wedi derbyn dros 40 o wobrau dylunio gan wahanol sefydliadau - ond nid y nifer sy’n cyfri, yn ôl Jarred. Heb amheuaeth, mae gwobrau dylunio wedi helpu i godi PDR i'r lefel nesaf; mae cystadlu am wobrau yn sicrhau ein bod yn graddnodi a meincnodi'r hyn a wnawn, a pham yr ydym yn gwneud hynny.