Blys Crwydro a Gwaith

O San Francisco, Taiwan, Washington DC i Ddulyn – yn ystod fy nwy flynedd gyntaf yn PDR rydw i wedi bod ymchwilio fy ffordd ar hyd a lled y byd. Gan ddechrau fel intern yn y tîm dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr i’r rôl barhaol sydd gennyf nawr, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn addysg, mae hynny’n sicr. Rydw i wedi adeiladu portffolio o wahanol ddefnyddwyr diwylliannol ym mhedwar ban byd ac wedi datblygu dealltwriaeth o’r ffordd y dylid teilwra’r gwaith ymchwil tuag atynt. Mae’r rôl wedi mynd y tu hwnt i’m holl ddisgwyliadau.
Gan deithio ar amrywiaeth o brosiectau gwahanol, o rai wedi’u hariannu gan yr UE i’r diwydiant meddygol, mae’r swydd yn parhau i gyflawni fy nyhead i ddeall defnyddwyr a chanfod eu hanghenion a’u dymuniadau. Mae gweithio ar draws adrannau gwahanol yn PDR yn golygu fy mod wedi cael fy mentora gan amrywiaeth o unigolion gwahanol wrth ddatblygu cynhyrchion newydd, Eco-ddylunio a pholisïau. Mae hyn nid yn unig wedi datblygu fy ngwybodaeth am ddylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr ond mae’n golygu fy mod i hefyd yn gallu cymhwyso’r dulliau ymchwil rydw i wedi’u dysgu i amrywiaeth eang o sefyllfaoedd gwahanol.


O arsylwi mewn cyd-destun, i gyfweliadau defnyddwyr i weithdai, mae teithio rhyngwladol wedi fy ngalluogi i roi’r dulliau ymchwil hyn ar waith gydag amrywiaeth eang o ddemograffeg wahanol ar draws llu o wledydd.
Rydw i wedi ymweld â llefydd doeddwn i erioed yn credu y byddwn i’n eu cyrraedd, er enghraifft Taiwan. Gadael yr awyren yn y gwres llethol yn Taipei. A’r gyrrwr tacsi yn nadreddu ei ffordd drwy fwrlwm a phrysurdeb y traffig. Doeddwn i erioed wedi dychmygu mynd yno. Hyd yn oed o fynd yno gyda gwaith, mae yna gyfle i grwydro ychydig. Dyma oedd yr achos yn San Francisco hefyd. Beicio ar draws y Golden Gate Bridge, ymweld â MOMA, a chrwydro strydoedd yn chwilio am Far Gwyddelig yn ystod y gemau’r Chwe Gwlad –amseroedd arbennig rhwng y gwaith caled.

Fel rhywun oedd newydd raddio, roeddwn i’n teimlo’n ofnus wrth gychwyn fy swydd newydd. Ond diflannodd yr ofnau hyn a chynyddodd yr hyder wrth i mi gychwyn gweithio ar lu o brosiectau newydd a gwahanol o’r cychwyn cyntaf. Rydw i bellach yn gweithio fel dylunydd sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, rydw i’n dysgu drwy’r amser.
