The PDR logo

Gweithio yn PDR – Profiad y Pandemig

Jess ydw i, rydw i’n gweithio yn y tîm dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr. Ymunais â PDR tua diwedd 2019. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio i Lywodraeth y DU, felly dyma’r tro cyntaf i mi weithio i gwmni ymgynghorol. Rydw i wir yn mwynhau’r awyrgylch ‘stiwdio’ sydd gennym yn PDR – mae’r bobl yn wych, mae’r swyddfa’n anhygoel ac mae’r gwaith yn ddiddorol iawn.

Ers i mi gychwyn gweithio yma, rydw i wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil parhaus ar ddefnyddwyr gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality, gan weithio mewn tîm cyfunol gyda’u staff mewnol. Rydw i wedi gwneud gwaith ymchwil ar ddefnyddwyr ar gyfer cleient yn y sector cyhoeddus hefyd, wedi helpu gyda chynllunio arddangosfa, ac wedi cymryd rhan mewn ambell weithdy neu ddarnau o waith ymgynghori ar gyfer prosiectau eraill sy’n digwydd yn PDR.

Ar ôl tua 4 mis yn gweithio yn y swyddfa, rydw i bellach wedi bod yn gweithio gartref am yr un cyfnod yn ystod pandemig y coronafeirws. Nid dyna’r disgwyl mae’n rhaid i mi gyfaddef, yn enwedig gan fy mod wedi disgwyl y byddai’r rôl yn golygu rhywfaint o deithio rhyngwladol (fel Amy). Fodd bynnag, mae fy nhîm yn parhau i gysylltu a chydweithredu bob dydd yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ni wedi bod yn gwneud defnydd da o adnoddau rhithwir gwahanol i’n helpu i weithio’n gynhyrchiol er nad ydym ni gyda’n gilydd yn gorfforol. Mae gweithio gartref yn llawn amser wedi bod yn arbrawf diddorol ac mewn rhai ffyrdd, mae wedi bod yn chwa o awyr iach. Fodd bynnag, mae cyfuniad o addasu i ffyrdd newydd o weithio, cleientiaid yn ailflaenoriaethu gwaith a newid cynlluniau, a synnwyr cyffredinol o ansicrwydd yn y byd wedi ei wneud yn anodd ar brydiau.

Rydw i wedi cydweithio â llawer o gleientiaid yng Nghaerdydd yn ystod fy nghyfnod yn PDR ac mae wedi cryfhau fy ymdeimlad o berthyn i’r ddinas, mwy felly na byw yma am y naw mlynedd diwethaf. Wedi dweud hynny, mae sawl prosiect rhyngwladol mawr ar y gweill hefyd, felly rydw i’n edrych ymlaen at y cyfle i newid gêr a wynebu heriau gwahanol.

Un o’r pethau anhygoel am PDR yw’r ffaith ein bod yn griw mor amrywiol. Fy mhrif ddiddordebau yw dylunio gwasanaethau a’r byd digidol ond yn gyffredinol mae gennyf ddiddordeb mewn unrhyw beth sgleiniog yn union fel pioden. Yn PDR, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y maes dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, mae yna feysydd fel dylunio cynnyrch, llunio polisïau, eco-ddylunio a dylunio llawfeddygol hefyd. Mae sawl un o’r tîm yn dod o gefndiroedd dylunio traddodiadol. Ond, os ydych chi fel fi, ddim yn dod o gefndir felly (mae gen i radd mewn seicoleg), yna mae croeso i chi yma yr un fath. Er hynny, bydd eich meddwl yn crwydro weithiau pan fydd eich cydweithwyr yn cael sgyrsiau am blastig a phren.